News Centre

Parciau Caerffili i gynnal byrddau cyfathrebu arloesol

Postiwyd ar : 10 Mai 2023

Parciau Caerffili i gynnal byrddau cyfathrebu arloesol
Mae parciau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ar fin cael budd o fyrddau cyfathrebu arloesol yn seiliedig ar symbolau.

Nod y byrddau yw cynorthwyo gyda rhyngweithio, chwarae, a chael hwyl rhwng plant o bob oed a gallu, eu cyfoedion a'u teuluoedd yn ystod eu hamser mewn parciau chwarae a hyrwyddo cynhwysiad i bob plentyn.

Caerffili yw un Fwrdeistref Sirol sydd am dderbyn byrddau fel rhan o raglen sy'n cyflwyno 300 o fyrddau cyfathrebu ledled Cymru.  Mae hyn wedi bod yn bosibl oherwydd cyllid gwerth £26,000 gan raglen Siarad Gyda Fi Llywodraeth Cymru, sy'n rhannu cyngor ar sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr plant rhwng 0 a 5 oed.
 
Mae'r byrddau gweledol yn un enghraifft o nifer o ddulliau Cyfathrebu Estynedig ac Amgen ar gyfer plant sydd ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu – er enghraifft plant â pharlys yr ymennydd neu gyflyrau sbectrwm awtistiaeth -– i gynnig dull amgen o gyfathrebu yn lle iaith lafar.

Ymhlith parciau a fydd yn cael byrddau cyfathrebu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yw Morgan Jones, Abertridwr, Ystrad Mynach, Y Wern (Nelson), Bargod, Llanbradach, Rhymni, Maes y Sioe (Coed Duon), Waunfawr a Rhisga.

Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Fannau Gwyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Rydyn ni wrth ein boddau i weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i osod y byrddau cyfathrebu mewn mannau chwarae allweddol ledled y Fwrdeistref Sirol fel rhan o'r cyflwyniad ledled Cymru.

“Rydyn ni'n gobeithio bydd y byrddau yn dod yn adnodd cyfathrebu defnyddiol i deuluoedd sy'n defnyddio ein cyfleusterau chwarae, yn enwedig y rheini â phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae'r byrddau hefyd yn ddwyieithog i helpu teuluoedd dysgu sgiliau Cymraeg sylfaenol gyda'i gilydd mewn ffordd ddifyr ac anffurfiol."


Ymholiadau'r Cyfryngau