News Centre

Cyngor Caerffili yn croesawu ymrwymiad i fuddsoddi mewn perygl llifogydd yng Nghymru yn y dyfodol

Postiwyd ar : 04 Mai 2023

Cyngor Caerffili yn croesawu ymrwymiad i fuddsoddi mewn perygl llifogydd yng Nghymru yn y dyfodol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi croesawu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu darparu nifer o gynlluniau lliniaru llifogydd.
 
Mae'r Cyngor wedi cyflwyno ceisiadau yn llwyddiannus i Lywodraeth Cymru ar gyfer 24 o gynlluniau, sy’n golygu eu bod nhw wedi derbyn dros £800,000 yn y flwyddyn ariannol hon.  Mae cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan gyllideb gyfalaf y Cyngor, gan ddod a chyfanswm y buddsoddiad i tua £1 miliwn.  Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i liniaru llifogydd ac i ddatblygu rhwydwaith monitro lleol a gwasanaeth rhybuddio.
 
Yn ddiweddar, fe wnaeth y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, yr AS Julie James, gyhoeddi y cyllid mwyaf erioed gwerth £75 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd.  Bydd cyfran sylweddol o’r cyllid yn cael ei roi i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cefnogi eu rhaglen graidd o waith ar brif afonydd mawr, gyda dros £10 miliwn yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol er mwyn bwrw ymlaen â chynlluniau lliniaru llifogydd ar raddfa fwya £3.7 miliwn ar gyfer cynlluniau ar raddfa fach i fynd i'r afael â llifogydd lleol o ganlyniad i ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr. 
 
Fe wnaeth y Gweinidog hefyd gyhoeddi ymrwymiad parhaus tuag at fuddsoddiad hirdymor i reoli perygl llifogydd trwy fuddsoddiad cyllid gwerth cyfanswm o £5 miliwn er mwyn galluogi awdurdodau lleol i reoli a chynnal isadeiledd rheoli llifogydd presennol.
 
Meddai'r Cynghorydd Julian Simmonds, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros Briffyrdd a Thrafnidiaeth, "Yn 2019, fe wnaeth y Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae rhagfynegiadau yn awgrymu ein bod ni'n debygol o weld stormydd yn amlach ac yn gryfach. Mae rheoli'r perygl hwn yn golygu nifer o heriau technegol yng Nghaerffili gan fod y cymoedd serth yn golygu bod lefelau dŵr yn y nentydd ac afonydd yn gallu newid yn gyflym iawn o ganlyniad i law trwm lleol.
 
"Rydyn ni'n croesawu’r cyhoeddiad am gyllid gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn ein helpu ni i fuddsoddi mewn systemau monitro a rhybuddio er mwyn helpu tracio ac ymateb i gyflyrau newidiol y tywydd.  Rydyn ni hefyd yn archwilio ffyrdd o arafu llif y dŵr ar draws y dirwedd ac yn uwch i fyny yn y crynhoad dŵr, gan leihau'r perygl o lifogydd."

Mae rhestr lawn a map o'r cynlluniau ar gael ar Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd 2023 i 2024 | LLYW.CYMRU.
 
Bydd y Cyngor yn ymgynghori ar ddiweddariad i'w Strategaeth a Chynllun Rheoli Perygl Llifogydd Lleol dros y misoedd nesaf, gan alluogi trigolion a busnesau i helpu gwella rheoli’r perygl o lifogydd yn y dyfodol.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau