News Centre

Llwyddiant i gydweithrediad Cyngor Caerffili ar gyfer archwilio hydrogen gwyrdd

Postiwyd ar : 19 Mai 2023

Llwyddiant i gydweithrediad Cyngor Caerffili ar gyfer archwilio hydrogen gwyrdd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cydweithio â nifer o bartneriaid arbenigol i archwilio cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu a defnyddio hydrogen gwyrdd ar draws ei weithgareddau i gynorthwyo'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiad i fod yn garbon sero net  erbyn 2030.

Mae hydrogen yn cael ei gynhyrchu trwy hollti dŵr (H2O) i'w rannau cyfansoddol, sef hydrogen ac ocsigen, trwy electrolysis, gan basio cerrynt trydanol drwy'r dŵr. Mae'r term hydrogen gwyrdd yn cael ei ddefnyddio pan fydd y trydan sy'n cael ei ddefnyddio yn yr electrolysis yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy, fel gwynt neu solar.  Bydd prosiectau sy’n cael eu harchwilio gan y Cyngor yn ystyried y defnydd o ffynonellau dŵr moesegol, drwy ddefnyddio dŵr o gyfleuster corsle’r Awdurdod yn hytrach na defnyddio “dŵr tap” sy’n well fel “dŵr yfed”.       

Mae'r Cyngor wedi datblygu partneriaethau cryf a, thrwy gydweithio, wedi llwyddo i sicrhau cyllid allanol i gynnal astudiaethau dichonoldeb ar ddau brosiect. Mae cyllid o £72,496 o raglen Lleoedd Arloesi Innovate UK Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i archwilio’r rhwystrau annhechnegol at ddatrysiadau ynni amlffynhonnell sy'n seiliedig ar le ac yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.  Mae £43,768 pellach wedi’i sicrhau drwy gronfa HyBRID Llywodraeth Cymru er mwyn ymchwilio i’r rhwystrau technegol i’r prosiect, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol De Cymru. Mae rhagor o gyllid yn cael ei geisio i gyflawni astudiaethau dichonoldeb ychwanegol.

Mae Gwasanaeth Ynni a Phartneriaethau Lleol Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r Cyngor o ran yr astudiaethau dichonoldeb sydd eu hangen ar gyfer ynni solar ac o ran cyngor.  Mae partneriaid eraill sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo elfennau o’r prosiect yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, drwy’r Rhaglen Infuse, sy’n cynorthwyo cynghorau gyda datgarboneiddio, Prosona, Baxter360 Consulting ac Energy Systems Catapult.
Bydd y Cyngor hefyd yn archwilio sut mae modd defnyddio hydrogen gwyrdd mewn trafnidiaeth a gwresogi – dau faes sy'n dibynnu ar danwydd ffosil ar hyn o bryd. Mae Wales & West Utilities yn ategu’r elfen hon drwy archwilio’r defnydd o hydrogen a gwres gwastraff o ganolfannau trafnidiaeth hydrogen.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Newid yn yr Hinsawdd, “Caerffili oedd yr ail awdurdod lleol yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae gennym ni nifer o brosiectau sy’n ceisio cyflawni ein hymrwymiad carbon sero net, gan gynnwys ymchwilio i'r defnydd o hydrogen gwyrdd.

"Mae gan hydrogen y potensial i ddarparu tanwydd ar gyfer rhai o’n cerbydau fflyd, systemau gwresogi pŵer neu gael ei gyfuno â’r rhwydwaith nwy.  Yn ogystal â datgarboneiddio, mae yna hefyd fanteision posibl o ran addysg a chyflogaeth i’r economi leol a gwella ansawdd aer i drigolion”.

“Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio gyda Chyngor Caerffili a phartneriaid i helpu i gyflymu’r newid i sero net,” meddai’r darlithydd Dr Stephen Carr.

“Trwy raglen Lleoedd Arloesi Innovate UK, rydyn ni'n ymchwilio i sut i oresgyn rhwystrau annhechnegol i gyflawni sero net trwy ddatblygu Pecyn Cymorth Penderfynu, a fydd yn helpu i hwyluso dewisiadau rhwng gwahanol ffyrdd o drosglwyddo ynni ar gyfer datgarboneiddio, gyda Phrifysgol De Cymru yn darparu arbenigedd ar ynni hydrogen a dylunio'r pecyn cymorth.

“Mae Prifysgol De Cymru yn arwain prosiect Menter Ymchwil Busnesau Bach HyBRID, Caerogen, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a phartneriaid eraill yn datblygu model techno-economaidd i asesu dichonoldeb hydrogen electrolytig gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”


Ymholiadau'r Cyfryngau