News Centre

Cynllun Teledu Cylch Cyfyng Caerffili yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed

Postiwyd ar : 02 Mai 2023

Cynllun Teledu Cylch Cyfyng Caerffili yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed
Mae'r Cynllun TCC mewn Mannau Cyhoeddus sy'n cael ei weithredu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed yn ddiweddar.

Ers cael ei sefydlu ym 1998, mae'r cynllun wedi ehangu o ddim ond 11 o gamerâu yn gweithredu ar dâp VHS i dros 170 o gamerâu ledled y Fwrdeistref Sirol, gyda delweddau'n cael eu hanfon yn ôl at ystafell rheoli ganolog ar wal fonitro a system rheoli ddigidol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae'r ystafell rheoli wedi delio â 901 o ddigwyddiadau a oedd wedi cael eu hadrodd at yr Heddlu neu ganddyn nhw, monitro 785 mwy o ddigwyddiadau posibl, wedi helpu delio â 479 o ddigwyddiadau ar ôl iddyn nhw ddigwydd, gan gynnwys creu 140 DVD at ddibenion tystiolaethol a 319 o uwchlwythiadau o dystiolaeth i'r Heddlu.

Yn ogystal â helpu dod i'r afael ar drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae TCC hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu pobl agored i niwed ac mae wedi cael ei ddefnyddio i helpu chwilio am bobl goll ac i atal hunanladdiad.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb dros Ddiogelu'r Cyhoedd, "Mae hyn yn garreg filltir ac mae'n wych i weld sut mae'r gwasanaeth wedi datblygu dros amser.  Mae TCC yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ein cymunedau’n ddiogel a darparu cysur i'n trigolion gan helpu lleihau'r ofn o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Hoffwn i longyfarch y tîm ar eu penblwydd a diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i'r gwasanaeth; rwy'n ymwybodol bod 3 ohonyn nhw wedi bod yn gweithio yn y gwasanaeth ers iddo ddechrau."


Ymholiadau'r Cyfryngau