News Centre

Cynlluniau gweithio ystwyth i arwain at arbedion

Postiwyd ar : 19 Mai 2023

Cynlluniau gweithio ystwyth i arwain at arbedion
Ty Penallta

Mae Cyngor Caerffili ar daith i wella a newid.  Rhan allweddol o'r broses hon yw ei uchelgais i ddatblygu swyddfeydd modern, addas i'r diben a fydd yn helpu i arbed arian a chaniatáu ffordd newydd o weithio yn y dyfodol.

Yn hanesyddol, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi bod yn berchen ar bortffolio eang o adeiladau, sydd fel arfer yn cynnwys pencadlys o brif swyddfeydd y cyngor, ystod o is-swyddfeydd, yn ogystal â depos a safleoedd lloeren cysylltiedig.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Rydyn ni am gyfuno ein portffolio eiddo ni a lleihau nifer yr adeiladau rydyn ni'n berchen arnyn nhw ac yn eu gweithredu ar hyn o bryd. Mae hyn yn adlewyrchu ein hagenda gweithio ystwyth newydd a bydd yn ein helpu ni i sicrhau arbedion sylweddol dros y blynyddoedd i ddod, sy’n cyd-fynd â’n strategaeth gyllidebol gytunedig.”

“Bydd ein prif bencadlys corfforaethol yn Nhŷ Penallta yn dod yn ganolfan graidd i ni, gan ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o’n gweithlu sy'n seiliedig mewn swyddfa. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wneud lle mewn ystod o safleoedd eraill a chyflawni buddion ariannol ychwanegol.”

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn addasu Tŷ Penallta i'w wneud yn weithle mwy modern a hyblyg lle gall mwy o staff weithio gyda'i gilydd mewn modd ystwyth.

Mae hyn yn cael ei wneud mewn modd sy'n ‘wyrdd’ a chost-effeithiol, gyda ffocws ar ailddefnyddio ac ail-glustogi cyfarpar a dodrefn, prynu eitemau ail law, neu ail-wneud yr eitemau presennol.

“Mae gwneud pethau’n wahanol, fel gwneud newidiadau i’n hadeiladau allweddol, yn ein galluogi ni i gyflawni mwy gyda llai heb effeithio ar wasanaethau rheng flaen. Mae hwn yn ddarn pwysig o waith i helpu i wneud Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sefydliad mwy modern a hyblyg, sydd â'r fantais ychwanegol o gyflawni arbedion allweddol wrth i ni barhau i ddarparu gwasanaethau o safon i'n cymuned ni,” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.



Ymholiadau'r Cyfryngau