News Centre

Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows 2023

Postiwyd ar : 19 Mai 2023

Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows 2023
Roedd yr haul yn tywynnu wrth i ganoedd o redwyr heidio i Gaerffili ar gyfer rasys blynyddol 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows ddydd Sul 14 Mai.

Fe wnaeth y cwrs, yng nghysgod castell trawiadol Caerffili, arwain dros 2,000 o redwyr drwy ganol y dref, ac o'i chwmpas, gan fynd heibio tirnodau eiconig fel cerflun Tommy Cooper a'r cerflun caws enfawr.

Fe wnaeth y diwrnod ddechrau gyda munud o dawelwch er cof am Ethan Hamer a enillodd y ras 2 gilomedr yn 2022 ac a gollodd ei frwydr yn erbyn canser ddechrau'r flwyddyn. Ac yntau'n fabolgampwr brwd, rhedodd Ethan dros Cardiff Archers, Cymoedd Morgannwg a De Cymru a hefyd chwarae pêl-droed dros Glwb Pêl-droed Cwrt Rawlin. Fe wnaeth grŵp mawr o'i ffrindiau a chyd-chwaraewyr redeg y rasys 2 gilomedr a 10 cilomedr er cof amdano fe.

Roedd y ras 10 cilomedr boblogaidd, sy'n denu rhedwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, yn cynnwys Pencampwriaethau Rhedeg Ffordd 10 cilomedr Athletau Cymru ac yn rhan o Gyfres Rasys Ffordd Cymru. Fe wnaeth Dewi Griffiths groesi'r llinell derfyn 10 cilomedr yn gyntaf mewn 30 munud a 23 eiliad gan ennill teitl Cymru, a'r fenyw gyntaf i groesi'r llinell oedd Lauren Cooper gan orffen y cwrs mewn 35 munud a 40 eiliad.

Roedd y ras hwyl 2 gilomedr, sy'n denu mwy o bobl bob blwyddyn, yn llwyddiant ysgubol gydag ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon yn cymryd rhan ynddi. Cafodd y ddwy ras eu dechrau gan Lauren Price, enillydd Medal Aur Olympaidd a phencampwr pwysau welter benywaidd cyntaf erioed Prydain, ochr yn ochr â Karriss Artinstall, enillydd Medal Efydd Olympaidd. Fe wnaeth y ddwy fabolgampwraig redeg y ras 2 gilomedr i ddangos eu cefnogaeth i'r digwyddiad.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, a redodd ras 10 cilomedr Caerffili, “Fel arfer, roedd yn ddigwyddiad gwych, a gafodd ei drefnu gan y timau Datblygu Chwaraeon a Digwyddiadau. Roedd yr awyrgylch o gwmpas canol y dref ac ar hyd y cwrs yn anhygoel ac roedd yn wych gweld cynifer o fusnesau lleol a phobl leol yn cymryd rhan ac yn cefnogi'r rhedwyr”.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Roedd yn wych gweld cynifer o bobl o bob cwr o'r rhanbarth yn dod at ei gilydd i gymryd rhan yn rasys 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows. Mae'r digwyddiad yn cefnogi ein gweledigaeth o gael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn fwy aml. Rydyn ni'n gobeithio gweld pawb eto y flwyddyn nesaf!”

Gallwch chi gofrestru nawr ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf a fydd yn digwydd ddydd Sul 12 Mai 2024. Bydd y cynnig cyw cynnar yn ddilys tan 4 Mehefin 2023 sy'n golygu y bydd rhedwyr 10 cilomedr yn talu dim ond £18. I gofrestru, ewch i www.caerphilly10k.co.uk.

Hoffen ni ddiolch i'n prif noddwr Bryn Meadows a'n noddwr ceir Griffin Mill am eu cefnogaeth barhaus i'r digwyddiad.

Mae canlyniadau llawn y ras ar gael yma: bit.ly/3MbFSYI
Mae lluniau swyddogol ar gael yma: bit.ly/3pFgdQN


Ymholiadau'r Cyfryngau