Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023/24
Postiwyd ar : 16 Maw 2023
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r manylion am gynllun rhyddhad ardrethi dros dro newydd y bydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch yn elwa ohono o fis Ebrill 2023.
Mae'r cynllun ar gyfer 2023/24 yn cynnig 75% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi'u meddiannu, ond £110,000 yw'r uchafswm y gall pob busnes wneud cais amdano ar draws yr holl eiddo sy'n cael eu defnyddio gan yr un busnes yng Nghymru.
Bydd angen i bob busnes cymwys lenwi ffurflen ddatganiad ar-lein sydd nawr ar gael ar wefan y Cyngor. Gan fod ein proses cynhyrchu biliau blynyddol wedi cychwyn yn barod, bydd y biliau blynyddol ar gyfer 2023/24 yn cael eu rhoi cyn y bydd modd rhoi'r rhyddhad ardrethi hwn.
I gael rhagor o fanylion, darllenwch Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2023-24 | Busnes Cymru (gov.wales).
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Tîm Ardrethi Busnes: TrethiAnnomestig@caerffili.gov.uk
Pwysig: Dylai trethdalwyr gysylltu â ni'n uniongyrchol ynglŷn â'r rhyddhad ardrethi uchod; ni fydd angen i chi ddefnyddio asiantwyr ardrethu i weithredu ar eich rhan.