Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023-24

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r manylion am gynllun rhyddhad ardrethi dros dro newydd y bydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch yn elwa ohono o fis Ebrill 2023. Mae'r cynllun ar gyfer 2023/24 yn cynnig 75% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi'u meddiannu, ond £110,000 yw'r uchafswm y gall pob busnes wneud cais amdano ar draws yr holl eiddo sy'n cael eu defnyddio gan yr un busnes yng Nghymru.

Bydd y rhyddhad yn cael ei ddarparu fel cymhorthdal ar ffurf Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA). Rhaid i’r un busnes beidio â hawlio cyfanswm o fwy na £315,000 o MFA dros dair blynedd (gan gynnwys 2023-24). Nid oedd fersiynau blaenorol o’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru yn cael eu darparu fel cymhorthdal ac ni ddylid eu cyfrif tuag at y terfyn MFA. Felly, rhaid i werth gros y rhyddhad a hawlir gan yr un busnes beidio â bod yn fwy na £110,000 yng Nghymru ar gyfer 2023-24 (i gydymffurfio â thelerau’r cynllun hwn) neu £315,000 o 2021-22 i 2023-24, gan gynnwys y blynyddoedd hynny (i gydymffurfio â gofynion rheoli cymorthdaliadau). Rhaid i fusnesau sy’n hawlio’r rhyddhad ddatgan nad yw’r swm a hawlir yn mynd y tu hwnt i’r terfynau hynny, cyn y gellir dyfarnu’r rhyddhad.

I gael rhagor o fanylion, darllenwch Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2023-24 | Busnes Cymru (gov.wales).

Rhaid i bob busnes cymwys lenwi ffurflen datganiad ar-lein. Nod y Tîm Ardrethi Busnes yw prosesu ffurflenni datganiad a chyhoeddi biliau diwygiedig lle bo'n briodol cyn gynted â phosibl.

GWNEUD CAIS NAWR
 
TSylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Tîm Ardrethi Busnes TrethiAnnomestig@caerffili.gov.uk.

Pwysig: Dylai trethdalwyr gysylltu â ni'n uniongyrchol ynglŷn â'r rhyddhad cyfradd uchod; nid fydd angen i chi ddefnyddio asiantwyr ardrethu i weithredu ar eich rhan.