News Centre

Mae Network Rail yn annog teithwyr i wirio cyn teithio wrth i waith uwchraddio gwerth miliynau o bunnoedd yng Nglynebwy barhau.

Postiwyd ar : 24 Maw 2023

Mae Network Rail yn annog teithwyr i wirio cyn teithio wrth i waith uwchraddio gwerth miliynau o bunnoedd yng Nglynebwy barhau.
175 Class train

Mae Network Rail yn annog teithwyr i wirio cyn teithio wrth i waith uwchraddio gwerth miliynau o bunnoedd yng Nglynebwy barhau. 

Bydd llinell reilffordd Glynebwy ar gau am 6 diwrnod o ddydd Sadwrn 25 i ddydd Iau 30 Mawrth (yn gynhwysol)

Mae’r prif safleoedd gwaith yn cynnwys:

  • Gorsaf Trecelyn – byddwn ni’n parhau â’r gwaith o osod brics a fydd yn rhan o flaen waliau’r platfform newydd.
  • Ardal Crosskeys - byddwn ni’n ailraddio arglawdd a fydd yn caniatáu mwy o le i osod yr ail drac.
  • Gorsaf Llanhiledd - bydd y bont droed a'r grisiau newydd yn cael eu codi i'w lle yr wythnos nesaf.
  • Ardal Abercarn - bydd gwaith paratoi ar gyfer yr ail drac yn digwydd. 

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gwasanaeth bws rhwng Tref Glynebwy a Chaerdydd Canolog o yfory (25 Mawrth) tan ddydd Iau nesaf 30 Mawrth. Ein cyngor i deithwyr yw gwirio cyn teithio yn www.trc.cymru

Mae'r gwaith hwn yn rhan o gynllun gwella Glynebwy a fydd yn galluogi gwasanaeth teithwyr ychwanegol bob awr o Lynebwy i Gasnewydd yn y dyfodol.

Yn ystod y cyfnod hwn o gau’r llinellau rheilffordd, bydd bysiau’n cymryd lle’r trenau rhwng Tref Glynebwy a Chaerdydd Canolog. Mae teithwyr yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw a gwirio www.nationalrail.co.uk cyn teithio.

Bydd gwaith yn parhau ar draws Llinell Glynebwy gyfan tan ddiwedd haf 2023. Bydd angen cau rhagor o reilffyrdd er mwyn gwneud y gwaith yn ddiogel:

  • Dydd Sul 23 Ebrill i ddydd Sul 30 Ebrill (yn gynhwysol)
  • Dydd Sul 21 Mai
  • Dydd Mercher 24 Mai i ddydd Sul 11 Mehefin (yn gynhwysol)
  • Dydd Sul 18 Mehefin
  • Dydd Sul 25 Mehefin
  • Dydd Sul 2 Gorffennaf
  • Dydd Sul 9 Gorffennaf
  • Dydd Sul 16 Gorffennaf


Ymholiadau'r Cyfryngau