News Centre

Taith gŵn Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga i godi arian ar gyfer y Ganolfan Awtistiaeth

Postiwyd ar : 23 Maw 2022

Taith gŵn Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga i godi arian ar gyfer y Ganolfan Awtistiaeth
Schnauzer

Bydd Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga yn cynnal taith gerdded cŵn yng Nghoedwig Cwmcarn i godi arian ar gyfer ei Chanolfan Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth.

Bydd y daith gerdded yn cael ei chynnal ddydd Sul Ebrill 3 ac mae'n cyd-daro ag Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd.

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad, sy’n dechrau am 10.45am ym maes parcio Coedwig Cwmcarn.

Ar hyn o bryd, mae gan Ganolfan Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth yr ysgol 21 o ddisgyblion, rhwng 11 ac 16 oed, sy'n cael cymorth ac yn dysgu sgiliau allweddol.

Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn y digwyddiad eleni yn mynd tuag at ddatblygu eu gardd anogaeth, ardal eistedd, plannu hadau a helpu cwblhau’r ardal dawelu yn yr ardd anogaeth. Bydd yr arian hefyd yn cefnogi'r prosiect, 'Ci', sy'n helpu disgyblion gyda dysgu yn yr awyr agored.

Dywedodd pennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga, John Kendall, “Rydw i wrth fy modd bod aelodau o’n cymuned ni wedi trefnu ‘Taith Gŵn ar gyfer Awtistiaeth' eto ar ôl seibiant o ddwy flynedd oherwydd COVID-19. Mae’n dda gweld hwn yn ôl ar galendr yr ysgol. Diolch i bawb dan sylw.”

Dywedodd Nick Rutter, sy’n trefnu’r digwyddiad, “Dyma’r trydedd Taith Gŵn ar gyfer Awtistiaeth yng Nghoedwig Cwmcarn. Nod y daith gerdded yw cael hwyl, codi arian a chodi ymwybyddiaeth yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth.”

Dywedodd prif athrawes Canolfan Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth, Deb Howells, “Mae’n wych gweld yr ysgol gyfan yn dod at ei gilydd ar gyfer disgyblion Canolfan Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth.

“Un cryfder yn yr ysgol yw’r ymwybyddiaeth a chymorth ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth. Mae cymaint o rieni a myfyrwyr yn ein cefnogi ni ac mae disgyblion prif ffrwd yn siarad â disgyblion Canolfan Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth ac yn ymgysylltu â nhw.”

I ymuno â'r digwyddiad, ewch https://www.facebook.com/events/294495729476864

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch taffyterrier@gmail.com



Ymholiadau'r Cyfryngau