News Centre

Digwyddiad torri tir yn nodi dechrau gwaith datblygu Pentref Gerddi ym Mhontllan-fraith

Postiwyd ar : 16 Maw 2022

Digwyddiad torri tir yn nodi dechrau gwaith datblygu Pentref Gerddi ym Mhontllan-fraith
L - R: James Duffett (Lovell), Cllr Mike Adams, Cllr Philippa Marsden, Cllr Colin Gordon, Neil Barber (Pobl)
Mae'r gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo ar ddatblygiad newydd sbon wedi'i ysbrydoli gan Bentref Gerddi ar safle hen swyddfeydd y Cyngor, ym Mhontllan-fraith.

Fe wnaeth datblygwr y bartneriaeth, Lovell, ynghyd â'r partneriaid Pobl Group a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, nodi'r achlysur gyda seremoni torri'r tir ar y safle, sef Pentref Gerddi'r Siartwyr.

Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn gynllun dylunio ac adeiladu sy'n cael ei gyflawni gan Lovell, ar ôl cael y contract yn gynharach eleni.

Bydd y datblygiad yn cynnwys 123 o gartrefi, a fydd yn cynnwys 40 o gartrefi ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely i'w gwerthu ar y farchnad agored, 40 o gartrefi rhanberchnogaeth fforddiadwy, a 43 o dai rhent cymdeithasol fforddiadwy, a fydd yn cael eu darparu gan Pobl.

Mae disgwyl i'r gwaith ar Bentref Gerddi'r Siartwyr gael ei gwblhau yn ystod haf 2024, a bydd y prosiect yn creu mwy na chwe lleoliad prentisiaeth a 128 wythnos o brofiad gwaith i bobl leol.

Ochr yn ochr â chreu cyfleoedd i gamu i'r diwydiant adeiladu, bydd Lovell hefyd yn darparu buddion cymunedol ac yn ymgysylltu ag ysgolion lleol.

Meddai James Duffett, rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Lovell, “Rydyn ni'n falch iawn o fod wedi cynnal y digwyddiad torri tir ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr gyda'n partneriaid, Pobl a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
“Rydyn ni'n falch iawn o ddechrau'r gwaith ar y cynllun tai anhygoel hwn ym Mhontllan-fraith, ac yn edrych ymlaen at drawsnewid y safle tir llwyd yn Bentref Gerddi ffyniannus, lle bydd trigolion yn cael budd o le gwell a thirweddau cyfagos o goed stryd, lleiniau glas, pwll dŵr a mannau gwyrdd agored cyhoeddus.

“Fel datblygwr pum-seren sydd wedi arwyddo Siarter Creu Lleoedd Cymru, mae'r cysyniad o Bentref Gerddi yn cyd-fynd yn berffaith â gwerthoedd craidd Lovell, wrth i ni roi materion creu lleoedd a phobl wrth galon ein gwaith. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cymuned a datblygiad i bobl Pontllan-fraith sy'n hyrwyddo hapusrwydd, iechyd a lles, yn ogystal â chartrefi llawn cymeriad.”

Meddai Neil Barber, Cyfarwyddwr Gweithredol – Masnachol, Pobl, “Mae'n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y datblygiad cyffrous ac uchelgeisiol hwn. Rydyn ni'n falch o gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Lovell ar y prosiect hwn, ynghyd â chymorth gan Lywodraeth Cymru, i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel mewn pentref gerddi hardd, sy'n dystiolaeth o ymrwymiad Pobl i ddarparu atebion byw fforddiadwy lle mae eu hangen nhw ledled Cymru.”

Meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae heddiw yn garreg filltir arwyddocaol wrth ddatblygu'r safle hwn i fod yn ddatblygiad tai blaenllaw; sy'n cofleidio ac yn gwella'r mannau gwyrdd sydd ynddo, ac o'i amgylch.

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad o dai o ansawdd uchel, ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd traean o'r cartrefi ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr yn rhai fforddiadwy, i helpu ateb y galw cynyddol yn y Fwrdeistref Sirol.

“Yn ogystal, mae Pobl a Lovell wedi datgan ymrwymiadau clir i wneud y mwyaf o'r buddsoddiad yn y datblygiad hwn er mwyn sicrhau buddion llawer ehangach i'n cymunedau lleol ni, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw i gyflawni hyn.”

Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr wedi'i ddylunio ar sail egwyddorion Pentref Gerddi, sy'n cyfuno dylunio traddodiadol â chrefftwaith cyfoes. Mae Pentrefi Gerddi yn creu lleoedd bywiog ac iach i fyw, sydd wedi'u dylunio'n dda gyda thai fforddiadwy.

 


Ymholiadau'r Cyfryngau