News Centre

Wicket 2 Wicket: Y cyfleuster criced dan do sy'n caniatáu i chwaraeon yr haf gael eu chwarae drwy gydol y flwyddyn

Postiwyd ar : 06 Meh 2023

Wicket 2 Wicket: Y cyfleuster criced dan do sy'n caniatáu i chwaraeon yr haf gael eu chwarae drwy gydol y flwyddyn
Fe wnaeth Wicket 2 Wicket agor i'r cyhoedd ym mis Medi 2022 gyda gweledigaeth i greu cyfleuster criced dan do er mwyn i dimau lleol, ysgolion ac unigolion allu ymarfer a gwella sgiliau drwy gydol y flwyddyn. Dyma’r unig gyfleuster o’i fath yn yr ardal ac mae eisoes yn cael ei gydnabod fel un o’r canolfannau gorau yn y DU. Gyda dros 20 o dimau criced cynghrair lleol ar ei stepen drws yn ogystal ag ysgolion, timau iau, timau babanod, a phrosiectau ieuenctid o gwmpas, mae’r cyfleuster eisoes wedi denu llawer o alw ac wedi sicrhau archebion a fydd yn mynd â nhw hyd at yr haf nesaf.
 
Mae'r perchennog Oliver Mason, ynghyd â'i bartner busnes Richard Jones wedi canolbwyntio'n gryf ar fforddiadwyedd i grwpiau wrth galon y busnes. Maen nhw wedi cynnig cyfraddau gostyngol i annog timau i hyfforddi a chynyddu nifer yr ymwelwyr â'r busnes dros y gaeaf, gan ganiatáu i'r gwasanaeth ddod yn fwy fforddiadwy ac annog pobl i adael eu cartrefi i wneud chwaraeon yn eu cyfleuster.
 
Mae'r ddau yn gricedwyr brwd, mae Richard Jones yn Hyfforddwr Uwch ECB (Lefel 3) sydd wedi hyfforddi Cricedwyr Ifanc Gwent, Llwybr Dwyrain Criced Cymru ac wedi helpu gyda chriced grŵp oedran Cymru. Mae e hefyd yn arwain y llwybr llawr gwlad yng Nghlwb Criced Fugitives Casnewydd, lle mae wedi chwarae criced iau a hŷn ers 35 mlynedd. Mae Oliver yn chwarae dros ei glwb lleol ac mae'n hyfforddwr criced ECB Lefel 2.
 
Mae gan y ganolfan siop ar y safle yn barod, ar gyfer yr holl anghenion criced hynny, a gweithdy sy'n cynnig atgyweirio ac adnewyddu batiau criced. Yn ddiweddar, maen nhw wedi agor man newydd ar gyfer cyfarfodydd neu er mwyn i rieni ymlacio a gwylio'r digwyddiadau gan ddefnyddio camera trosglwyddo mewnol y ganolfan.
 
Stori lwyddiant go iawn i’r ganolfan yw cynyddu nifer y merched sy’n cymryd rhan yn y gamp ac yn chwarae’r gêm dan do, gyda’r gynghrair pêl feddal menywod yn dod yn hynod o boblogaidd eleni.
 
Cafodd Wicket 2 Wicket £14,663.08 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r cyllid hwn i Wicket 2 Wicket o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.  Cafodd y grant arian cyfatebol ganddyn nhw i helpu prynu sgôr, goleuadau, boeler gwresogi a system sain newydd. Mae'r cymorth wedi diogelu o leiaf un swydd ac maen nhw'n awyddus i gyflogi staff newydd yn fuan iawn. Mae'r ganolfan hefyd wedi cadw lle er mwyn i gwmni brodwaith dillad symud o Gwmbrân, ac mae'n ddelfrydol ar gyfer pob clwb chwaraeon sydd angen gwisg chwaraeon wedi’i bersonoli.
 
Yn ddiweddar, fe wnaeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, alw heibio i weld y ganolfan newydd ei hun a chael ychydig o awgrymiadau ar ei ergydion troed blaen a dreifiau cyfar. Meddai, “Mae’n wych gweld canolfan mor wych yn cael ei sefydlu yma yng Nghwmcarn, sy'n canolbwnytio ar fforddiadwyedd i’w defnyddwyr a chefnogi’r gêm ar lawr gwlad. Rwy’n falch iawn o weld bod y cymorth gan dîm busnes Cyngor Caerffili yn helpu Wicket 2 Wicket i gyflawni eu nod.”
 
Mae Wicket 2 Wicket eisoes yn cynllunio syniadau newydd i gynyddu defnydd y lleoliad, gyda chyfleusterau cynadleddau, gweithgareddau adeiladu tîm, a hyfforddi dyfarnwyr newydd i helpu'r busnes i dyfu.
 
Dywedodd Oliver Mason “Mae cymorth Cyngor Caerffili wedi bod yn anhygoel, roedd y broses grant yn hawdd iawn i wneud cais amdani ac yn golygu y gallen ni gyflawni ein cynlluniau busnes gymaint yn gynt. Mae bod â’r gallu i wresogi’r adeilad bellach yn sicrhau y gallwn ni wneud y defnydd gorau o’r ganolfan drwy gydol y flwyddyn a chael mwy o bobl i gymryd rhan weithredol yn y gamp.”


Ymholiadau'r Cyfryngau