News Centre

Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Markham

Postiwyd ar : 16 Meh 2023

Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Markham
Mae Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Markham i longyfarch yr ysgol ar ganlyniad eu hadroddiad arolygu diweddar ac i ddathlu eu defnydd o’r Gymraeg.

Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth y Gweinidog fynychu gwasanaeth Dathlu Cymraeg yr ysgol, gan ddyfarnu tystysgrif Siaradwr Cymraeg yr Wythnos i blant o bob grŵp blwyddyn am eu hymdrechion wrth ddefnyddio’r Gymraeg yr wythnos flaenorol.

Fe wnaeth Jeremy Miles MS hefyd gymryd rhan mewn cyfweliad wedi'i gynnal gan ddisgyblion blwyddyn chwech ar gyfer gorsaf radio’r ysgol, cyn cael sgwrs un-i-un gyda Phennaeth yr ysgol, Mrs Lindsey Prichard.

Dywedodd Lindsey Prichard, Pennaeth Ysgol Gynradd Markham, “Roedden ni wrth ein boddau yn croesawu Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru i Ysgol Gynradd Markham. Roedd yn gyfle gwych i ni ddangos a dathlu’r holl waith yr ydyn ni, fel ysgol, yn ei wneud tuag at ein cwricwlwm newydd ac yn ein cymuned, yn ogystal â datblygu a gwella ein sgiliau Cymraeg.”

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, “Diolch yn fawr i Ysgol Gynradd Markham am y croeso cynnes. Roeddwn i'n falch o weld y gwaith gwych mae’r ysgol yn ei wneud i gynorthwyo'r Gymraeg ac fe wnes i fwynhau cael cyfweliad gan ddisgyblion ar gyfer Radio Markham.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Roedd yn hyfryd bod yn rhan o ymweliad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ag Ysgol Gynradd Markham, ac i ddathlu cyfraniad parhaus yr  ysgol at yr iaith Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd Markham a Siaradwyr Cymraeg yr Wythnos yr wythnos hon.”


Ymholiadau'r Cyfryngau