News Centre

Trawsnewid yng nghynllun tai lloches Pontllan-fraith

Postiwyd ar : 20 Meh 2023

Trawsnewid yng nghynllun tai lloches Pontllan-fraith
Mae cynllun tai lloches, sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn Springfield, Pontllan-fraith wedi cael ei drawsnewid, diolch i fuddsoddiad o £3.18 miliwn.
 
Mae’r hen lety un ystafell yn Ynyswen wedi'i ailfodelu i ddarparu fflatiau 1 a 2 ystafell wely sy’n olau ac â digonedd o le i breswylwyr. Mae pob cartref wedi cael ei adnewyddu'n helaeth gan gynnwys ceginau newydd, ystafelloedd gwlyb a systemau gwresogi, ac mae'r rhan fwyaf yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae system chwistrellu hefyd wedi’i gosod yn yr adeilad er diogelwch y preswylwyr. 
 
Mae ffenestri newydd a rendro wedi gwella golwg yr adeilad yn ogystal a’i wneud yn fwy effeithlon o ran ynni. Hefyd, mae paneli solar wedi cael eu gosod ar do Ynyswen.
 
Mae mannau cymunedol dan do ac yn yr awyr agored wedi cael eu trawsnewid, gyda phreswylwyr bellach yn gallu elwa o lolfa sy'n agored i'r awyr a mannau eistedd heulog i gymdeithasu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae gwell mynediad wedi sicrhau bod yr adeilad bellach yn cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
 
Cafodd pob agwedd ar y gwaith yn Ynyswen ei chyflawni gan dîm mewnol y Cyngor, hyd yn oed gweithgynhyrchu’r fframiau ffenestri uPVC newydd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni'n cydnabod nad oedd dyluniad gwreiddiol y cynllun bellach yn addas i’r diben. Roedd maint y gwaith yn Ynyswen yn sylweddol, ond fe wnaeth ein tîm mewnol ymateb i’r her a chyflawni'r gwaith i safon eithriadol o uchel.
 
“Fe wnaeth y tîm wynebu nifer o heriau gyda’r prosiect hwn a hoffwn i ddiolch i bawb  a gymerodd ran i’w wneud yn llwyddiannus. Diolch hefyd i breswylwyr Ynyswen am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y gwaith.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau