News Centre

Y busnes lleol llwyddiannus, Optrain Ltd, yn parhau i ehangu o fewn y diwydiant adeiladu

Postiwyd ar : 22 Meh 2023

Y busnes lleol llwyddiannus, Optrain Ltd, yn parhau i ehangu o fewn y diwydiant adeiladu
Mae Optrain Ltd yn fusnes lleol a gafodd ei sefydlu yn 2004, sy'n cynnig hyfforddiant i'r diwydiant adeiladu. Maen nhw'n ymgorffori dysgu digidol trwy gyfuniad o amodau safle gwaith gyda rheolaethau realistig, gan alluogi dysgu ymarferol, a gwella rhaglenni gweithredwyr traddodiadol. Mae'r busnes wedi'i leoli yn Rhymni ond mae ganddo hefyd ganolfan brawf yng Nghyffordd Baverstock, Llwyncoed.

Mae Optrain wedi ennill achrediad a statws Canolfan Brawf gyda Chynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu (CPCS), Cynllun Cofrestru Gweithredwyr Peiriannau Cenedlaethol (NPORS). Maen nhw'n darparu hyfforddiant ar gyfer ardystiadau fel Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) a Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ), ac yn gweithio gyda sefydliadau fel Coleg Merthyr Tudful a Phrifysgol Caerdydd ac wedi cael pobl wedi'u cyflogi i weithio ar waith ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465.

Mae Optrain hefyd wedi gwneud gwaith teledu ar sioeau fel Safebreakers ar Sky 1 gyda Ben Shephard a Rhod Gilbert's Work Experience ar y BBC. Mae ganddyn nhw hefyd 2 efelychydd, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant mwy ecogyfeillgar trwy arbed costau ar danwydd a thorri allyriadau. Maen nhw'n defnyddio'r efelychwyr i hyfforddi cyn symud ymlaen at beiriannau go iawn, ac i weithio gyda phlant ag anghenion arbennig.

Roedd angen peirianwaith newydd ar y busnes lleol gan nad oedd y peiriannau presennol yn haen 5, felly nid oedden nhw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer hyfforddi. Fe wnaeth Optrain Ltd dderbyn grant datblygu busnes wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022-23 ar gyfer dwy lori dympio. Fe wnaeth hyn eu helpu nhw i leihau eu hallyriadau gan eu bod nhw'n rhenti o'r blaen. Yna, cawson nhw grant Datblygu Busnes wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2023-24 ar gyfer dwy lori dympio sy'n wynebu i'r blaen. Cafodd y grantiau hyn, a oedd yn cael eu hariannu gan arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU, eu neilltuo tuag at Optrain trwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'r grantiau hyn wedi helpu i ddiogelu dwy swydd.

Wrth symud ymlaen, mae Optrain yn bwriadu parhau i dyfu'r cwmni gyda'u peiriannau newydd, gyda'r potensial i edrych ar ehangu ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Hoffen nhw hefyd gymryd mwy o ran mewn helpu plant ag anghenion arbennig.

Dywedodd Wayne Davies, perchennog Optrain Ltd, "Mae'r grantiau arian cyfatebol wedi newid popeth i ni. Gyda'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes, doedd dim byd yn ormod o drafferth. Roedden nhw o gymorth mawr, ac yn barod i helpu yn syth."

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Mae'n wych gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth. Mae Optrain Ltd wedi bod yn masnachu ers 2004 ac yn darparu hyfforddiant i'r Diwydiant Adeiladu sydd wedi'i leoli yn Rhymni. Mae'n fendigedig clywed am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a sut fydd ein cymorth ni'n helpu."


Ymholiadau'r Cyfryngau