News Centre

Parti Traeth Rhisga yn llwyddiant mawr wrth ddechrau Digwyddiadau Haf y Cyngor

Postiwyd ar : 08 Meh 2023

Parti Traeth Rhisga yn llwyddiant mawr wrth ddechrau Digwyddiadau Haf y Cyngor
Cafodd Rhisga ei thrawsnewid ar gyfer Parti Traeth Rhisga ar ddydd Sadwrn 27 a dydd Sul 28 Mai, ac fe wnaeth nifer enfawr o ymwelwyr fwynhau'r heulwen ar y ddau diwrnod.

Fe wnaeth 5,747 o bobl fynychu'r traeth, ac fe wnaeth 2,533 o bobl ymweld â chanol y dref. Dyma'r nifer fwyaf o bobl erioed i fynychu digwyddiad Cyngor Bwrdeisref Sirol Caerffili yn Rhisga!

Roedd y penwythnos llawn hwyl yn cynnwys traeth enfawr gyda chadeiriau cynfas, bwcedi a rhawiau, sioeau Pwnsh a Jwdi, paentio wynebau, reidiau ar gefn asynnod, ffair, ac amrywiaeth o stondinau bwyd a diod wedi'u gosod gan fusnesau lleol. Roedd rhywbeth i'r teulu cyfan ei fwynhau.

Dyma'r hyn a ddywedodd busnesau lleol am y digwyddiad:

Meddai Louise Jenkyn, Ysgrifennydd y Clwb yng Nghlwb Rygbi Rhisga, “Ar ran Clwb Rygbi Rhisga, roedden ni mor ddiolchgar am yr hysbysebu, ac roedden ni hefyd ar bob tudalen cyfryngau cymdeithasol leol. Roedd y diwrnod yn wych, roedden ni'n brysur drwy'r dydd a gwerthon ni ein byrgyrs a chŵn poeth i gyd. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn nhref Rhisga a does dim amheuaeth y byddai busnesau eraill wedi elwa ar y diwrnod. Parti Traith Rhisga 2024 amdani!”

Meddai Tracey Hollifield, perchennog Tracey's Funky Faces, “Roedd Parti Traeth Rhisga yn llwyddiant mawr i fi; roedd yn wych gweld pobl o'r llynedd a phaentio eu hwynebau nhw eto. Roedd yr haul yn gwenu ac roedd y dref yn disgleirio. Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu'n dda ac rydw i'n edrych ymlaen at ddod yn ôl flwyddyn nesaf.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Am ddiwrnod gwych arall yn Rhisga. Nifer yr ymwelwyr yn uchel a'r tywydd yn hyfryd. Hoffwn i ddiolch i'r holl fusnesau am eu gwaith gyda'n tîm digwyddiadau, gan greu profiad cadarnhaol i'r trigolion.”

Cafodd y prosiect hwn ei gyllido'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw ennyn mwy o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Wedi colli allan ar yr hwyl yn Rhisga? Dewch draw i Barti Traeth Coed Duon ar ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf! Am ragor o wybodaeth ac am y newyddion diweddaraf, dilynwch dudalen y digwyddiad ar Facebook: bit.ly/43IxEPe


Ymholiadau'r Cyfryngau