News Centre

Buddsoddiad ychwanegol wedi’i gymeradwyo ar gyfer canolfan i ddysgwyr sy’n agored i niwed ym Mhontllan-fraith

Postiwyd ar : 14 Meh 2023

Buddsoddiad ychwanegol wedi’i gymeradwyo ar gyfer canolfan i ddysgwyr sy’n agored i niwed ym Mhontllan-fraith
Heddiw (14 Mehefin) mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol i greu canolfan newydd i ddysgwyr agored i niwed a chyfleusterau ychwanegol ym Mhontllan-fraith.

Cytunodd aelodau’r Cabinet i neilltuo £2,150,739.40 pellach o Gronfa Wrth Gefn Llunio Lleoedd y Cyngor ar gyfer y datblygiad, yn ychwanegol at y £1,375,000 a gafodd ei gytuno yn flaenorol. Mae buddsoddiad y Cyngor yn cyfateb i 25% o gyfanswm y costau, gyda’r 75% sy’n weddill yn cael ei ariannu drwy Raglen Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Mae'r ganolfan yn cael ei datblygu ar safle hen Ysgol Gyfun Pontllan-fraith. Ymhlith y cynlluniau y mae addasu ac adnewyddu adeilad yr hen ysgol ramadeg, i greu cyfleuster pwrpasol ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed. Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys 10 lle addysgu, ynghyd ag ystafelloedd grŵp llai, ystafell gyfarfod, ystafell staff, prif neuadd, cegin addysgu a chaffi.

Yn ogystal, bydd gan y cyfleuster neuadd chwaraeon â 4 cwrt ac ardal gemau aml-ddefnydd gydag arwyneb 3G i'w ddefnyddio gan yr ysgol a'r gymuned ehangach. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd haf 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau, “Bydd y prosiect cyffrous hwn yn darparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr sy’n agored i niwed yn y Fwrdeistref Sirol, ynghyd â darpariaeth chwaraeon dan do ac awyr agored. Bydd y gymuned ehangach hefyd yn elwa o ddefnyddio’r cyfleusterau ychwanegol y tu allan i oriau ysgol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau