News Centre

Oergell Gymunedol awyr agored gyntaf Caerffili yn agor yn swyddogol

Postiwyd ar : 16 Meh 2023

Oergell Gymunedol awyr agored gyntaf Caerffili yn agor yn swyddogol
Mae Canolfan Gymunedol Graig-y-Rhaca wedi dod yn gartref i Oergell Gymunedol awyr agored gyntaf Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae’r Oergell, sy’n cael ei hailstocio’n ddyddiol, yn cynnwys y prif nwyddau cartref fel llaeth, ffrwythau a llysiau ffres a hyd yn oed bwyd babanod, ac mae ar gael i drigolion yn rhad ac am ddim.

Mae’r Oergell yn cael ei stocio drwy roddion gan Gyfran Deg a busnesau lleol, gan gynnwys bwyd sy’n agos at ei ddyddiad dod i ben gan y Co-Op Bwyd, Machen sydd, yn ei dro, yn helpu i leihau gwastraff bwyd.

Mae’r Oergell Gymunedol wedi’i lleoli mewn cabinet pwrpasol y tu allan i’r Ganolfan Gymunedol sy’n cael ei gloi bob nos gan wirfoddolwyr Cymdeithas Gymunedol Graig-y-Rhaca, ac sy’n defnyddio ynni solar yn unig.

Mae’r fenter mewn ymateb i bwysau cynyddol yr Argyfwng Costau Byw a chafodd ei hariannu gan Gyllideb Costau Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Gronfa Grymuso Cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, “Rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi bod Oergell Gymunedol awyr agored gyntaf Caerffili wedi agor. Er bod gennym ni fanciau bwyd ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol, yr Oergell Gymunedol hon yw’r gyntaf o’i math, gan ei bod hi'n hygyrch y tu allan i oriau agor y Ganolfan Gymunedol, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd ag amserlenni gwaith prysur neu ymrwymiadau eraill.

“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o wneud y prosiect hwn yn bosibl, gan gynnwys Cymdeithas Gymunedol Graig-y-Rhaca a’r busnesau lleol sydd wedi gwirfoddoli eu gwasanaethau i achos teilwng iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Amanda McConnell, “Gyda phwysau cynyddol yr Argyfwng Costau Byw rydyn ni'n gobeithio y gall yr Oergell Gymunedol fod yn adnodd o gysur a rhyddhad i’n trigolion yn ystod y cyfnod hwn.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau