Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2023
Canolfan lles Caerffili – Diweddariad
News Centre
Canolfan lles Caerffili – Diweddariad
Postiwyd ar : 02 Meh 2023
Mae cynlluniau i adeiladu canolfan iechyd a lles newydd o'r radd flaenaf yng nghanol Caerffili yn dechrau dod yn eu blaen.
Bydd gweithgarwch ar y safle yn dechrau wythnos nesaf (dydd Llun 5 Mehefin) wrth i gontractwyr gychwyn y gwaith o glirio rhannau o'r tir i ganiatáu gwaith arolwg.
Un o'r arolygon allweddol i'w cwblhau ar y safle yw gwaith Ymchwilio Safle, a fydd yn helpu cadarnhau pa fath o bridd/craig sydd o dan y safle, er mwyn i sylfeini a draeniau gael eu dylunio.
Cyn i'r gwaith hwn gychwyn, bydd llystyfiant yn cael ei glirio o'r safle mewn ardaloedd arwahanol lle bydd angen i'r offer arolygu gael mynediad.
Bydd ecolegydd yn bresennol i sicrhau na fydd unrhyw niwed i fywyd gwyllt yn ystod y gwaith clirio. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ar 5 Mehefin a dylai bara am wythnos.
Yn dilyn clirio'r safle, bydd offer arbenigol yn cael eu defnyddio i gymryd samplau o'r safle yn yr ardaloedd lle mae'r llystyfiant wedi'i glirio. Bydd y gwaith hwn yn dechrau rhwng canol a diwedd mis Mehefin, a bydd yn cymryd tua phythefnos.
Mae'r cyfleuster trawiadol newydd yn cael ei ddarparu yn sgil hwb ariannol gwerth £20 miliwn gan Gronfa Codi'r Gwastad y Llywodraeth. Mae Cyngor Caerffili hefyd yn cyfrannu dros £13 miliwn o'i gronfeydd wrth gefn ei hun tuag at y cyfleuster newydd cyffrous, a fydd yn cael ei ddatblygu ar dir ger Parc Busnes Caerffili.
Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau cyffrous, cliciwch yma:
www.caerffili.gov.uk/news/news-bulletin/january-2023/%E2%80%8Bgreen-light-for-%C2%A333million-wellbeing-hub?lang=cy-gb
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Busnes lleol To Me To You Removals i ddechrau ail gwmni storio, gyda chymorth Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Caerffili
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y