News Centre

Mae’r busnes harddwch, Mia Bella, yn fwy llwyddiannus nag erioed gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth y DU a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 19 Meh 2023

Mae’r busnes harddwch, Mia Bella, yn fwy llwyddiannus nag erioed gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth y DU a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Ar ddiwedd mis Hydref 2019, roedd Michelle Watters, perchennog y busnes harddwch Mia Bella, ar fin ehangu ei busnes ond, fel llawer o fusnesau newydd, cafodd y Pandemig Covid effaith enfawr ar y busnes a allai fod wedi golygu diwedd i'w breuddwydion cyn iddyn nhw gychwyn yn go iawn. Fodd bynnag, mae Michelle, gwraig fusnes o Gaerffili, â gwir wydnwch Cymreig a roedd hi’n benderfynol o fwrw ymlaen i gyflawni ei nod hi. Wrth wynebu'r anawsterau hyn, fe wnaeth ei merch, Rebecca, ymuno â'r busnes ac aethon nhw ati i'w wneud yn llwyddiannus. Mae Michelle hefyd yn canmol ei staff am eu holl gymorth, a'i chleientiaid ffyddlon am ei chefnogi hi'r holl ffordd.

Gan neidio ymlaen at heddiw, mae gan Mia Bella bellach safle newydd sbon, llyfrau apwyntiadau sy’n llawn a chynllun i ehangu'r gwasanaethau hyd yn oed yn ymhellach. Wedi'i leoli yng Nghaerffili, roedd y busnes yn canolbwyntio ar y diwydiant ewinedd a thraed sy'n tyfu mewn maint. Mae gan y safle bellach bum man trin ewinedd a thraed, ynghyd â dwy ystafell driniaeth breifat newydd sy'n cynnig yr holl driniaethau iechyd a harddwch yn ôl gofynion ei chleientiaid.

Nid yw Michelle yn stopio yno, gyda gweledigaeth i ddarparu ‘siop un stop’ ar gyfer holl anghenion harddwch ei chwsmeriaid. Ar hyn o bryd, mae Michelle yn creu sba moethus yng nghefn ei safle, ac mae cyfleuster trin gwallt ym mlaen y safle.

Fe gafodd Mia Bella £7,500 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r cyllid hwn i Mia Bella o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.  Mae’r grant, sy’n cael ei ariannu’n gyfartal gan fuddsoddiad y busnes ei hun, wedi golygu bod swyddi’r staff presennol yn ddiogel ac mae ehangu’n golygu’r gallu i gyflogi gweithwyr llawrydd newydd a phrentis newydd.

Fel y mae Michelle a’i merch yn ei gydnabod, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl oni bai am gymorth Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Caerffili.

Dywedodd Michelle, “Mae'r cymorth wedi bod yn wych, maen nhw wedi helpu cymaint i gael y busnes ar y trywydd iawn. Fe wnaeth y grantiau ein helpu ni i ariannu'r gwaith adnewyddu arfaethedig ar y safle. Roedd y broses yn hynod o hawdd, ac fe wnaethon nhw ein cynorthwyo ni'r holl ffordd.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, ymweld â'r safle i weld y trawsnewid, a chafodd ei syfrdannu gan y llwyddiant a'r stori y tu ôl iddo. Dywedodd y Cynghorydd Pritchard, “Mae’n wych bod yn Mia Bella, sy’n stori lwyddiannus arall yng Nghaerffili, diolch i waith caled Michelle a’i thîm, ynghyd â’r cymorth roedd y Cyngor yn gallu ei ddarparu.”


Ymholiadau'r Cyfryngau