News Centre

Yr athro bychan, Reed, yn helpu disgyblion Hendredenny i ddysgu am eu teimladau

Postiwyd ar : 06 Meh 2022

Yr athro bychan, Reed, yn helpu disgyblion Hendredenny i ddysgu am eu teimladau
Disgyblion Ysgol Gynradd Hendredenni

Efallai mai nhw yw’r athrawon lleiaf yn system ysgolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, ond mae’r effaith y maen nhw'n ei chael ar fywydau myfyrwyr ifanc yn enfawr.

Mae babanod a’u mamau yn ymweld ag ysgolion cynradd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili gan ddod â’r rhaglen 'Roots of Empathy' i ddisgyblion cynradd gyda’r syniad y byddan nhw, yn eu tro, yn dod yn bobl fwy empathig a gofalgar o’r herwydd.

Mae Ysgol Gynradd Parc Hendredenny yn un o’r ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, ac ymwelodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, â nhw yn ddiweddar i weld drosti’i hun effaith Roots of Empathy pan oedd eu hathro bychan, Reed, 9 mis oed, a'i fam, Danielle Chapron-Rielly, yn ymweld â dosbarth Blwyddyn 2 yn ddiweddar.

Mae ymchwil yn dangos bod Roots of Empathy yn codi lefelau o empathi ymhlith plant ysgol, gan gynyddu gofal, caredigrwydd a chynhwysiant ac yn arwain at lai o ymddygiad problematig yn y dosbarth.

“Roedd yn wych cael cwmni’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gyfer yr ymweliad gan deulu Roots of Empathy.

“Mae cryn dipyn o amser wedi mynd heibio ers i ni allu ymweld ag ystafell ddosbarth, ac fe wnaeth plant a staff Ysgol Gynradd Parc Hendredenny ein croesawu ni’n cynnes. Roedd yn bleser eu gweld nhw'n dysgu am emosiynau gan eu ‘Athro Bychan’ o amgylch y flanced werdd.

“Roedd yr amseriad yn wych gan mai Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl oedd hi, ac rydyn ni am dynnu sylw at y ffaith bod plant yn deall eu hemosiynau nhw yn ogystal â theimladau pobl eraill yn gallu helpu bod yn ffactor amddiffynnol ac yn gallu helpu iechyd meddwl da a lles,” meddai Katie Cohen, Rheolwr Roots of Empathy yn y Deyrnas Unedig.

“Drwy’r rhaglen hon, mae disgyblion yn gallu adnabod eu hemosiynau eu hunain yn well drwy ddysgu’r emosiynau y mae'r babi, Reed, yn eu dangos.

“Yn ogystal â datblygu sgiliau i ffurfio perthnasau ag eraill, mae disgyblion yn profi’r berthynas gariadus rhwng rhiant a babi. Maen nhw'n archwilio pwysigrwydd ymlyniad, beth ydyw a sut mae'n effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd wrth i'r babi dyfu.  Mae darparu’r model rôl rhiant hwn yn helpu ein disgyblion ni i ddeall rolau a chyfrifoldebau magu plant, gan eu paratoi nhw i fod yn rhieni yn y dyfodol,” meddai Carrie Smith, Hyfforddwr Roots of Empathy.

Er bod myfyrwyr yn elwa o'r rhaglen, mae mamau a babanod yn gwneud hynny hefyd.

Dywedodd mam Reed, Danielle, fod cymryd rhan yn y rhaglen wedi ei helpu hi i fod yn fwy cydnaws â'i babi. “Ac o ganliniad i’r rhaglen, mae fy mab yn fwy cymdeithasol hefyd,” meddai hi.

“Fel rhiant, fe roddodd yr hyder i mi orfod ateb holl gwestiynau’r disgyblion am fy mabi. Mae’n wych ei weld drwy lygaid y plant, yn ei wylio’n datblygu.”

I ddysgu rhagor am y rhaglen, ewch i www.rootsofempathy.org



Ymholiadau'r Cyfryngau