News Centre

​Adnodd poblogaidd am ymwybyddiaeth alergenau nawr ar gael mewn mwy o ieithoedd

Postiwyd ar : 15 Meh 2022

​Adnodd poblogaidd am ymwybyddiaeth alergenau nawr ar gael mewn mwy o ieithoedd
Adnodd poblogaidd am ymwybyddiaeth alergenau nawr ar gael mewn mwy o ieithoedd

Mae fersiynau Pwyleg, Bwlgareg, Rwmaneg a Hwngareg nawr ar gael.

Mae’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI), mewn partneriaeth â Safonau Masnach Cymru a Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf, wedi cyhoeddi sawl cyfieithiad newydd o’r “Adnoddau Ymwybyddiaeth Alergenau” poblogaidd.

Ar ôl eu lansio ym mis Medi 2021, mae’r adnoddau’n darparu gwybodaeth hanfodol i’r rhai sydd wedi buddsoddi yn y sectorau bwyd a lletygarwch am beryglon alergenau bwyd a’u canlyniadau dinistriol posibl. Mae'r adnoddau'n darparu canllawiau rheoleiddio ar reoli cynhwysion alergenau, gwybodaeth am fwyd a rheolau labelu.

Cafodd yr adnoddau eu cyhoeddi’n wreiddiol yn Saesneg, Cymraeg, Bengaleg, Cantoneg, Cwrdeg, yr iaith Fandarin, Pwnjabeg, Twrceg ac Wrdw er mwyn ystyried amrywiaeth y rhai sy’n gweithio yn sector lletygarwch y Deyrnas Unedig.  Bellach, maen nhw wedi'u cyfieithu i bedair iaith ychwanegol, sef Bwlgareg, Hwngareg, Rwmaneg, a Phwyleg.

Mae arbenigwyr diogelu defnyddwyr yn gobeithio y bydd yr adnoddau yn cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o alergenau bwyd ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector lletygarwch ac, yn y pen draw, yn helpu atal digwyddiadau trasig yn y dyfodol.

Yn anffodus, mae marwolaethau sy'n gallu cael eu hosgoi o adweithiau gorsensitif i fwyd yn digwydd. Yn ddiweddar, mae Tania Kaur Khasriya, myfyrwraig, o Ealing, wedi colli ymwybyddiaeth am bedair blynedd a bu farw ar ôl bwyta pryd o fwyd a oedd yn cynnwys cnau daear mewn bwyty yn Southall. 

Daeth lansiad gwreiddiol yr adnoddau ychydig cyn i “Ddeddf Natasha” ddod i rym. Mae Deddf Natasha wedi’i henwi ar ôl y ddiweddar Natasha Ednan-Laperouse, a ddioddefodd adwaith alergaidd angheuol pan oedd ond yn 15 oed ar ôl bwyta bagét ‘artisiog Jerwsalem, olifau a tapenâd’ o Pret a Manger. Roedd gan Natasha alergedd sesame ac nid oedd yn ymwybodol bod hadau sesame wedi'u rhag-bobi i'r bara.

Dywedodd John Herriman, Prif Weithredwr y CTSI, "Rhaid i fusnesau ddeall pwysigrwydd alergenau a labelu bwyd yn gywir a chymryd y camau priodol i osgoi croeshalogi. Mae amrywiaeth wych yn niwydiant bwyd y Deyrnas Unedig ac, oherwydd hynny, mae rhaid i ni wneud deunyddiau hygyrch i bob cymuned, ac rydw i'n falch bod ieithoedd dwyrain Ewrop wedi'u hychwanegu at y rhestr helaeth o ddeunyddiau sydd eisoes ar gael.
"Rhaid i fusnesau gydymffurfio â'r gyfraith oherwydd mae'n golygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth yn llythrennol. Drwy ehangu'r deunyddiau hyn i fwy o ieithoedd, gallwn i gyrraedd grŵp o fusnesau sy'n ehangu o hyd, gan leihau'r risgiau i ddefnyddwyr, gobeithio."

Mae'r adnoddau ar gael am ddim ac yn cael eu cynnal ar wefan y CTSI.

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, “Rydw i wrth fy modd bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru wedi cyfrannu arian er mwyn gwella'r adnoddau alergen pwysig hwn. Mae rheoli gwybodaeth am alergenau yn rhan hanfodol o sicrhau bod y bwyd rydyn ni'n ei fwyta yn ddiogel. Bydd darparu’r adnodd amlieithog hwn yn galluogi busnesau bwyd i ddeall eu cyfrifoldebau nhw’n well a bydd ychwanegu pedair iaith yn lleihau ymhellach y tebygolrwydd y bydd iaith yn rhwystr i gael yr ymwybyddiaeth honno. Hoffwn i longyfarch Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf am ddatblygu'n bellach offeryn hyfforddi mor werthfawr.”

Dywedodd Dilys Harris, Uwch Swyddog Safonau Masnach, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar ran Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf, “Rydyn ni wrth ein bodd i gyflwyno pedair iaith newydd i’n hadnodd alergenau amlieithog ni, ac roedd hynny'n bosibl gyda chymorth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Masnach Cymru. Mae’r adnodd ar gael i awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae’n addas ar gyfer busnesau bwyd, swyddogion gorfodi cyfraith bwyd a sefydliadau addysgol. 

Mae defnyddwyr â gorsensitifrwydd bwyd yn dibynnu ar fusnesau i reoli alergenau yn effeithiol a darparu gwybodaeth gywir a chlir i'w galluogi i wneud dewisiadau bwyd diogel.  Y gobaith yw y bydd yr adnodd dysgu hwn yn helpu busnesau i fod yn ymwybodol o alergeddau, eu cynorthwyo i gydymffurfio â’r gyfraith a, drwy wneud hynny, helpu atal marwolaethau sy'n gallu cael eu hosgoi.”

Dywedodd Judith Parry, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru, “Rydyn ni'n falch o hyrwyddo ymhellach yr adnodd alergen amlieithog hwn sydd bellach yn cynnwys 13 o ieithoedd.  Mae’n darparu deunydd dysgu deniadol a hygyrch i gynorthwyo’r ystod amrywiol o fusnesau bwyd sy’n gweithredu ledled Cymru i gydymffurfio â gofynion rheoleiddio alergenau.”

Dywedodd Cadeirydd Gweithgor Hil a Chydraddoldeb y  CTSI, Tendy Lindsay, sydd hefyd yn aelod uchel ei barch o Uned Cynghori ar Dwyll Bwyd gynt yr Asiantaeth Safonau Bwyd, “Rydw i'n falch o weld bod pedair iaith ychwanegol wedi’u hychwanegu at adnoddau alergenau bwyd Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf.  Mae hwn yn adnodd ardderchog ar gyfer gweithwyr proffesiynol diogelu defnyddwyr, busnesau a defnyddwyr. Drwy sicrhau bod yr adnoddau alergenau bwyd hanfodol hyn ar gael mewn cymaint o wahanol ieithoedd, mae'n sicrhau y bydd yr wybodaeth yn cael ei deall ledled cymunedau amrywiol y Deyrnas Unedig. Dylai ymgyrchoedd ymwybyddiaeth yn y dyfodol ddefnyddio'r adnoddau fel enghraifft ar gyfer ymgysylltu â’r llu o wahanol gymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.”



Ymholiadau'r Cyfryngau