Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2022
Dweud eich dweud ar gyfnewidfa Caerffili arfaethedig
News Centre
Dweud eich dweud ar gyfnewidfa Caerffili arfaethedig
Postiwyd ar : 28 Meh 2022
Fel rhan o'r cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid tref Caerffili, rydyn ni'n gofyn am eich barn chi am y gyfnewidfa drafnidiaeth arfaethedig.
Mae gorsaf drenau Caerffili ar fin cael ei huwchraddio yn gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol newydd, yn amodol ar sicrhau cyllid. Mae disgwyl i'r gyfnewidfa drawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio i Gaerffili ac oddi yno. Bydd yn cysylltu pobl yn ddiymdrech â threnau, bysiau, tacsis ac opsiynau teithio llesol.
Rydyn ni am i farn y gymuned chwarae rhan hanfodol yn nyluniad a gweithrediad y safle, gan sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu.
Trwy gymryd rhan yn ein harolwg ni, bydd gofyn i chi:
Rhoi sylwadau ar y map (gallwch chi wneud hyn gymaint o weithiau ag y dymunwch chi!)
Dweud ychydig wrthym ni amdanoch chi'ch hun. Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall pwy mae ein hymgysylltiad ni wedi'i gyrraedd ac yn ei gwneud hi'n haws i ni ddysgu am bwy rydyn ni'n cynllunio ar ei gyfer.
Ateb ychydig o gwestiynau yn ein holiadur ni. Hoffem ni ddysgu sut rydych chi'n teithio i'r orsaf ac oddi yno, pa mor aml, a beth allwn ni ei wneud i wella'ch teithiau chi.
Dywedodd Aelod Cabinet a Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Jamie Pritchard, "Rydyn ni'n cychwyn ar raglen drawsnewid sylweddol ac mae’r gyfnewidfa yn un o lawer o brosiectau rydyn ni'n eu cyflawni i drawsnewid ein cymunedau ni. Mae'n hanfodol bod trigolion ac ymwelwyr, fel ei gilydd, yn cyfrannu at yr arolwg ac yn ymgysylltu â ni ynglŷn â sut rydych chi eisiau i'r gyfnewidfa hon edrych. Mae gennym ni'r arolwg ar-lein a byddwn ni hefyd yn y trefi yn siarad â phobl ac yn eu cynorthwyo nhw i lenwi'r arolwg. Rydw i’n eich annog chi i ddweud eich dweud chi a bod yn rhan o’r daith drawsnewid.”
I gael cymorth i lenwi'r arolwg, bydd staff ar gael;
Dydd Llun 11 Gorffennaf – 8am-9.30am – yng Ngorsaf Fysiau Caerffili
Dydd Llun 11 Gorffennaf – 4pm-5.30pm – yng Ngorsaf Fysiau Caerffili
Dydd Mercher 13 Gorffennaf – 2pm-3.30pm – yn Llyfrgell Caerffili
Dydd Llun 18 Gorffennaf – 4.30pm-6pm – yng Ngorsaf Fysiau Caerffili
Dydd Mercher 20 Gorffennaf – 2.00pm-3.30pm – yn Coffi Vista
I lenwi'r arolwg neu i gael gwybod rhagor, ewch i
https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/y-coridor-cyfnewidfa/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y