News Centre

​Ffiliffest 2022

Postiwyd ar : 08 Meh 2022

​Ffiliffest 2022
​Ffiliffest 2022

Mae diwrnod llawn hwyl gyda mynediad am ddim wedi’i drefnu ar Gaeau Owain Glyndwr, Heol y Cilgant, Caerffili ar ddydd Sadwrn Mehefin 11eg.

Gŵyl flynyddol Menter Caerffili yw Ffiliffest i ddathlu iaith a diwylliant Cymru ac fe fydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau, adloniant, gweithgareddau, gweithdai, stondinau bwyd a diod a chyfle i brynu gan fusnesau lleol. Mae’r ŵyl yn nol am y tro cyntaf ers dwy flynedd ac fe fydd hi’n ddiwrnod llawn hwyl i’r gymuned gyfan!

Mae Menter Caerffili wedi gweithio yn agos gyda Cyngor B.S.Caerffili, grwpiau cymunedol a pherfformwyr i drefnu’r digwyddiad mewn lleoliad hollol unigryw. Mae cannoedd o blant o ysgolion lleol yn paratoi ac yn ymarfer i ddawnsio gwerin ar y brif lwyfan sef arddangosfa dawnsio gwerin fwyaf y Sir.

Mae’r ŵyl eleni yn parhau tan 19:00, gyda pherfformiadau gan fandiau a pherfformwyr Cymreig fel Martyn Geraint, Allan yn y Fan, Catrin Herbert, Paid Gofyn, TeiFi, Iestyn Gwyn Jones a’r band, Plu, Eadyth, Candelas a mwy. Fe fydd stondinau nwyddau, amrywiaeth o fwyd a diod yn cynnwys bwyd llysieuol, cwrw a seidr, hefyd gweithgareddau a gweithdai addysgol amrywiol megis pabell celf a chrefft, ardal gemau fideo a chwaraeon.

Dywedodd Bethan Jones-Ollerton o Menter Caerffili ynglŷn â’r resymau dros gynnal yr ŵyl:“Yn Ffiliffest rydym ni’n croesawi bobl o bob oedran i ddod i fwynhau iaith a diwylliant Cymru mewn lleoliad ffantastig. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfleoedd i bobl i gysylltu â’r Gymraeg beth bynnag eu gallu. Dyn ni’n gyffrous iawn i weld Ffiliffest yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.”

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n prif noddwyr sef, Llywodraeth Cymru, Cyngor B.S.Caerffili, Cyngor Celfyddydau Cymru a Dwr Brecon Carreg.

Fe fydd Ffiliffest ar Fehefin 11eg rhwng 12:00-19:00 ar Gaeau Chwarae Owain Glyndwr, Heol y Cilgant, Caerffili. 

Am fwy o wybodaeth ewch i www.mentercaerffili.cymru neu cysylltwch â Bethan Jones-Ollerton ar 01443 820913 or email bethanjones@mentercaerffili.cymru



Ymholiadau'r Cyfryngau