News Centre

Cynlluniau ailddatblygu Caerffili yn symud ymlaen

Postiwyd ar : 13 Meh 2022

Cynlluniau ailddatblygu Caerffili yn symud ymlaen
Caerphilly

Mae cynlluniau ailddatblygu newydd cyffrous gwerth miliynau o bunnoedd yng nghanol tref Caerffili yn mynd yn eu blaen yn gyflym.

Mae'r cynlluniau yn cynnig creu lle gwaith masnachol defnydd cymysg uchelgeisiol a chynllun preswyl ar safle'r farchnad dan do bresennol ac eiddo cyfagos ar Pentrebane Street.

Bydd yr adeiladau, sydd mewn perchnogaeth breifat ac sydd mewn cyflwr eithaf gwael ar hyn o bryd, yn cael eu hailddatblygu’n llwyr gan Gymdeithas Tai Linc Cymru gyda chymorth y Cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn darparu cartrefi di-garbon newydd a mannau gwaith hyblyg modern, sy’n rhan o gynlluniau adfywio ehangach ar gyfer y dref.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Jamie Pritchard, “Mae hwn yn gynllun mor gyffrous i Gaerffili ac yn arwydd o ddechrau dyfodol newydd beiddgar i’r dref.

“Rhan allweddol o’r broses yw ymgysylltu’n llawn a chydweithio’n agos â masnachwyr presennol y farchnad. Rydyn ni wedi cyfarfod â masnachwyr i drafod eu gofynion wrth symud ymlaen a byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i ddiwallu eu hanghenion nhw o ran cymorth busnes ac adleoli yng Nghaerffili. Nid yw’r adeilad presennol, sy’n eiddo preifat, yn addas i’r diben, felly, rydyn ni am archwilio cyfleoedd ar gyfer marchnad well o lawer fel rhan o’n cynlluniau adfywio ni.

“Rydw i am sicrhau trigolion a’r gymuned fusnes leol y byddwn ni'n darparu’r cynllun hwn mewn cydweithrediad agos â phawb sydd â diddordeb i sicrhau ein bod ni'n darparu cynllun sy’n addas i’r diben, wrth ategu a gwella canol y dref yn ehangach.”

Mae'r cynllun yn rhan o Uwchgynllun Caerffili 2035 uchelgeisiol, sy'n lasbrint beiddgar ac arloesol ar gyfer dyfodol canol tref Caerffili. Mae'r Uwchgynllun yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Llywodraeth Cymru, Cadw a Trafnidiaeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Gaerffili 2035, ewch i:
www.caerphillytown2035.co.uk/cy/



Ymholiadau'r Cyfryngau