News Centre

Y Gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden yn croesawu dau weithiwr KickStart

Postiwyd ar : 07 Meh 2022

Y Gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden yn croesawu dau weithiwr KickStart
Mae'r Cynllun Kickstart yn galluogi cyflogwyr i greu lleoliadau gwaith o ansawdd uchel am 6 mis i helpu pobl ifanc i gael gwaith ystyrlon. 
 
Mae'r Cynllun Kickstart yng Nghaerffili wedi creu lleoliadau gwaith sy'n amrywio o waith gweinyddol a chymorth gweithwyr gofal, i swyddi cyfryngau cymdeithasol a marchnata. 
 
Cafodd y pandemig coronafeirws effaith aruthrol ar y Gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden oherwydd roedd rhaid cau am gyfnodau hir o amser a gorfod gweithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol llym. Fodd bynnag, mae Dull Byw Hamdden bellach wedi gallu sicrhau dau leoliad swydd drwy'r cynllun. 
 
Dywedodd Jacob, sydd bellach yn gweithio yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn, “Des i o hyd i’r hysbyseb swydd drwy dudalen swyddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac, wedyn, gweithiais i gyda fy mentor cyflogaeth i wneud cais swyddogol am rôl Cynorthwyydd Hamdden.
 
“Rydw i’n mynd i’r gampfa’n rheolaidd i wella fy hun a gallwn i weld y byddwn i'n gallu helpu eraill i wella eu hunain yn yr un ffordd. Cafodd y swydd ei chynnig i mi a theimlais i ryddhad enfawr i gael fy nghyflogi mewn rôl roeddwn i'n wirioneddol ei heisiau. Rydw i’n gyffrous iawn i weithio’n galed a pheidio â siomi’r tîm.” 
 
Ychwanegodd Kian, a lwyddodd i gael y swydd yng Nghanolfan Hamdden Rhisga, “Roeddwn i wrth fy modd pan gefais i'r swydd, ond roeddwn i'n teimlo'n eithaf pryderus ynghylch y syniad o ddechrau fy swydd amser llawn gyntaf. 
 
“Rydw i wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gyflawni fy nghymhwyster achubwr bywyd ar ddiwedd y mis. Rydw i wedi gweithio yng Nghanolfan Hamdden Rhisga am y chwe wythnos diwethaf ac yn mawr obeithio y gallaf i barhau i weithio yn y gwasanaethau hamdden ar ddiwedd fy nghontract.” 
 
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Kickstart, dilynwch y ddolen: https://www.gov.uk/government/collections/kickstart-scheme. 
 
Am ragor o wybodaeth am ba gyfleusterau chwaraeon a hamdden actif sydd ar gael yn eich ardal chi – ewch i: www.caerphilly.gov.uk/Things-To-Do/Sports-and-Leisure?lang=cy-gb
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau