News Centre

Parti Traeth Rhisga yn llwyddiant mawr

Postiwyd ar : 08 Meh 2022

Parti Traeth Rhisga yn llwyddiant mawr
Ym Mharti Traeth Rhisga – sef digwyddiad newydd a gafodd ei gynnal ym Mharc Tredegar ar ddydd Sadwrn 28 Mai a dydd Sul 29 Mai – fe wnaeth nifer aruthrol o ymwelwyr fwynhau'r heulwen fendigedig a'r 130 tunnell o dywod a oedd yn llawn blancedi picnic, cadeiriau cynfas, bwcedi a rhawiau.
 
Yn ôl y dyfais cyfrif ymwelwyr yng nghanol tref Rhisga – sydd ychydig i ffwrdd o'r parc, yn agos i Lyfrgell Rhisga – roedd bron i 1,500 o ymwelwyr yn ystod y digwyddiad deuddydd; wrth fynedfa'r traeth, cafodd bron i 5,000 o ymwelwyr eu cyfrif ar eu ffordd i'r pwll tywod enfawr dros y penwythnos.
 
Fe wnaeth tîm digwyddiadau Caerffili glywed pobl o bob oed yn mwynhau'r hyn a oedd yn teimlo fel diwrnod ar lan y môr, heb y môr! Roedd y plant yn gwichian wrth weld y mynydd o dywod i chwarae arno, wrth i oedolion o bob oed fwynhau'r awyrgylch ymlaciol, gan wylio eu plant yn chwarae mewn man diogel. Fe wnaeth llawer o deuluoedd wneud eu hunain yn gysurus am y dydd, wrth i ymwelwyr ddod yn llu i fwynhau'r digwyddiad am ddim a oedd yn cynnig traeth am ddim, cadeiriau cynfas a blancedi picnic am ddim, reidiau am ddim ar gefn asynnod, a sioeau Pwnsh a Jwdi am ddim.
 
Roedd dewis o stondinau – gan gynnwys cacennau, losin, toesenni a diodydd poeth – yn ogystal ag amrywiaeth o reidiau ffair, paentio wynebau a gweithdai sleim i'r plant. Fe wnaeth rhai o'r masnachwyr werthu eu holl stoc, ac roedd busnesau lletygarwch yng nghanol y dref dan eu sang, gyda phobl yn ciwio am bysgod a sglodion ffres, diodydd poeth a lluniaeth. Roedd caffis a siopau yn llawn wrth i heidiau o ymwelwyr symud rhwng y traeth a chanol y dref i nôl diodydd a bwyd yn ystod y dydd.
 
Roedd tîm digwyddiadau a wardeniaid diogelwch cymunedol y Cyngor yn patrolio'r ardal i gadw'r parc yn ddiogel, ac roedd llawer o adrannau eraill y Cyngor yn helpu cyn y digwyddiad i sicrhau ei fod yn ddigwyddiad gwych i bawb.
 
Dywedodd Tara o We Connect Coffee Shop & Pantry yn Rhisga, “Roedd y diwrnod ar y traeth yn fendigedig ac roedd nifer y bobl a oedd yn mwynhau’r parc yn wych i’w weld. Yn y diwedd fe wnaethom aros ar agor 2 awr ar ôl ein hamser cau arferol oherwydd y nifer o bobl yn dod drwy'r drws a chawsom ein gwerthiant mwyaf y diwrnod hwnnw ers i ni agor! Mae wedi golygu llawer i ni fel sefydliad di-elw ac wedi galluogi llawer o bobl sydd heb fod yn y siop i ddod draw. Roeddwn i’n teimlo ei fod yn ein rhoi ni ar y map ychydig.”


Ymholiadau'r Cyfryngau