News Centre

Preswylwyr yn mwynhau cartrefi newydd yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 01 Meh 2022

Preswylwyr yn mwynhau cartrefi newydd yng Nghaerffili
Mae preswylwyr wedi symud i gartrefi ynni effeithlon newydd a gafodd eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Gynradd Cwm Ifor ym Mhen-yr-heol, Caerffili.

Mae'r 19 cartref i gyd wedi'u hadeiladu i safon PassivHaus, sy'n golygu eu bod nhw'n defnyddio deunydd inswleiddio perfformiad uchel i wneud adeilad yn gwbl rydd o ddrafftiau, gan stopio gwres rhag cael ei golli i greu cartrefi ag effaith amgylcheddol isel iawn.

Gweithiodd United Welsh mewn partneriaeth â’r contractwr, Kingfisher Developments Ltd, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i adeiladu’r datblygiad, a dderbyniodd fuddsoddiad gan Gronfa Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lynn Morgan, Cyfarwyddwr Datblygu ac Adfywio United Welsh, “Rydw i’n falch iawn o weld preswylwyr yn symud i’r cartrefi newydd hyn ym Mhen-yr-heol.

“Mae’n bwysig i ni adeiladu cartrefi sy’n defnyddio technoleg werdd er mwyn i ni allu chwarae ein rhan ni i leihau effaith newid hinsawdd yng Nghymru, ac mae’r datblygiad hwn yn gam cadarnhaol arall i ddod â rhagor o dai fforddiadwy o ansawdd uchel i Fwrdeistref Sirol Caerffili.”

Mae'r 19 cartref newydd yn cynnwys 12 fflat ag un ystafell wely, 4 cartref âdwy ystafell wely a 3 thŷ â thair ystafell wely. Maen nhw i gyd yn defnyddio ynni solar a, gan eu bod nhw wedi'u hinswleiddio'n drylwyr i atal colli ynni, mae ganddyn nhw systemau adfer gwres wedi'u gosod i gyflenwi aer ffres wedi'i hidlo.

Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dro Dai, “Mae gweithio gyda’n partneriaid ni i ddarparu tai fforddiadwy o safon uchel yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor.  Mae’r datblygiad cyffrous hwn nid yn unig yn helpu diwallu anghenion lleol, ond hefyd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn cysylltu ag ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau carbon yn y Fwrdeistref Sirol.”

Symudodd Joanna, preswylydd newydd, i'w chartref newydd ym mis Ebrill.

Dywedodd, “Roedden ni mor hapus pan wnaethon ni ddarganfod y bydden ni’n symud yma. Rydyn ni wrth ein bodd yn byw yma ac rydw i mor falch o fyw mewn tŷ carbon isel.”

Darparodd datblygiad Cwm Ifor gyfleoedd i wyth o drigolion United Welsh a chyn-aelod o’r lluoedd arfog gael gwaith a dysgu sgiliau adeiladu gwyrdd newydd.

Mae United Welsh wedi adeiladu dros 1,000 o gartrefi yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac yn bwriadu darparu 1,300 yn fwy yn ystod y pum mlynedd nesaf. 


Ymholiadau'r Cyfryngau