News Centre

Cynghorau Balch ar restr fer gwobr PinkNews

Postiwyd ar : 07 Meh 2022

Cynghorau Balch ar restr fer gwobr PinkNews
Mae Cynghorau Balch wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a gwobr PinkNews eleni.
 
Mae Cynghorau Balch yn grŵp o 8 o awdurdodau lleol de Cymru sy’n ymroddedig i wella’r cymorth sy'n cael ei gynnig i staff LHDTC+ mewn awdurdodau lleol yng Nghymru a sicrhau bod llywodraethau lleol ledled Cymru yn arweinwyr gweladwy yn y maes hawliau LHDTC+, gan hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ yn ein cymunedau ni.
 
Ar hyn o bryd, mae Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe yn cymryd rhan weithredol ym mhartneriaeth y Cynghorau Balch.
 
Eleni, mae Cynghorau Balch wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae gwobr Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn dathlu’r rhannau eithriadol hynny o gyrff llywodraethol neu gyrff cyhoeddus eraill y Deyrnas Unedig sy’n gwneud newid er gwell.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau a Hyrwyddwr LHDTC+, “Rydyn ni wrth ein bodd ni fod partneriaeth y Cynghorau Balch wedi cael ei chydnabod am ei gwaith dros gynhwysiant LHDTC+.
 
“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i hyrwyddo parch ac amrywiaeth yn ein cymunedau ni ac i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili a de Cymru gyfan yn parhau i fod yn lle cynhwysol i fyw a gweithio ynddo i bawb.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau