News Centre

Gŵyl banc y Jiwbilî – Oriau agor

Postiwyd ar : 01 Meh 2022

Gŵyl banc y Jiwbilî – Oriau agor
Bydd y Cyngor ar gau ddydd Iau 2 Mehefin a dydd Gwener 3 Mehefin – mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth heblaw am argyfyngau y tu allan i oriau. Mae'r manylion am y gwasanaethau sydd ar gael, a'r oriau agor, wedi'u nodi isod.

Gallwch chi barhau i gael mynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod hwn; fodd bynnag, cofiwch efallai na fydd ceisiadau'n cael eu prosesu hyd nes y bydd y swyddfeydd yn ailagor ddydd Llun 6 Mehefin 2022.

Ni fydd sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn cael eu monitro yn ystod y cyfnod hwn (dydd Iau 2 Mehefin i ddydd Llun 6 Mehefin). I wneud ymholiadau brys na all aros nes i'r Cyngor ailagor, ffoniwch y rhif argyfwng y tu allan i oriau – 01443 875500.

Biniau ac ailgylchu

Nid oes DIM NEWIDIADAU i'r gwasanaeth casglu gwastraff a deunyddiau i'w hailgylchu dros ŵyl y banc – rhowch yr eitemau yn y man casglu arferol ar y diwrnod casglu arferol.

Dod o hyd i'ch diwrnod casglu gwastraff:
https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Bin-collection-days?lang=cy-gb

Bydd pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor dros ŵyl y banc.

Lleoliadau ac oriau agor:
https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Recycling-centres/Opening-times?lang=cy-gb

Canolfannau hamdden

Bydd pob canolfan hamdden AR GAU ddydd Iau 2 Mehefin a dydd Gwener 3 Mehefin. Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ddydd Sadwrn 4 Mehefin 2022.

Llyfrgelloedd

Bydd pob llyfrgell AR GAU ddydd Iau 2 Mehefin a dydd Gwener 3 Mehefin. Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ddydd Sadwrn 4 Mehefin 2022.

Cofrestryddion

Ar gyfer argyfyngau yn unig, o ran cofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, ffoniwch 07771 886895 neu 07813 094234.

Gwasanaethau cymdeithasol

Ar gyfer argyfyngau sy'n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol, cysylltwch â Thîm Dyletswydd Argyfwng De-ddwyrain Cymru.

Ffôn: 0800 328 4432
Minicom: 0800 587 9963


Ymholiadau'r Cyfryngau