News Centre

Fis Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Postiwyd ar : 07 Meh 2022

Fis Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Mae mis Mehefin yn fis Sipsiwn, Roma a Theithwyr (GRT) sydd, drwy gynyddu ymwybyddiaeth, addysg a dathlu, yn helpu i drechu rhagfarn a chamwahaniaethu ymhlith ein cymuned GRT.

Beth am ddathlu’r hanes a’r diwylliant hwn ac adeiladu dyfodol gwell.
 
Mae Cyngor Caerffili yn falch o gefnogi mis hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr (GRTHM). Byddwn yn parhau i rannu hanes cyfoethog ac amrywiol pobl GRT drwy addysg a dathlu.
 
Mae parchu pethau tebyg a gwahaniaethau mewn pobl eraill yn agor y drws i lawer o gyfleoedd.
 
Mae mis hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cynnig cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth ac ystyried hanes, diwylliant ac iaith cymunedau teithwyr.

Mae’r fideo byr hwn, wedi ei animeiddio, yn lle gwych i gychwyn:
https://www.youtube.com/watch?v=1bhBbMrF8Z0


Ymholiadau'r Cyfryngau