News Centre

Gwnewch y Pethau Bychain – Make One Small Change - Addewid mis Mehefin

Postiwyd ar : 20 Meh 2022

Gwnewch y Pethau Bychain – Make One Small Change - Addewid mis Mehefin
Croeso i rifyn nesaf Gwnewch y Pethau Bychain – Make One Small Change.

Mae gennym ni ddau addewid ar wahân eto'r mis hwn, un ar gyfer y Gymraeg ac un ar gyfer Cydraddoldeb, mae'r ddau i'w gweld isod - rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n gallu cymryd rhan.
 
Rwy'n addo bod yn gyfaill i oedolyn sy'n agored i niwed.
 
20 – 26 Mehefin yw Wythnos Anableddau Dysgu – ymgyrch flynyddol sy’n ymwneud â sicrhau bod y byd yn clywed sut beth yw bywyd os oes gennych anabledd dysgu.

Y thema ar gyfer 2022 yw ailgysylltu â ffrindiau a chymunedau, gyda llawer o bobl ag anableddau dysgu yn dal i wynebu problemau yn ymwneud ag arwahanrwydd, iechyd meddwl gwael a phryder yn dilyn y cyfyngiadau COVID.

Dyna pam rydyn ni'n eich herio chi i roi o'ch amser i helpu oedolion agored i niwed yng Nghaerffili.

Er bod ein gwasanaeth gwirfoddoli a chyfeillio wedi’i ohirio dros dro oherwydd cyfyngiadau COVID, rydyn ni'n parhau i chwilio am wirfoddolwyr i gofrestru yn barod ar gyfer ail-lansio'r gwasanaeth.

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw i gael eich paru ag oedolion agored i niwed sy'n rhannu diddordebau, gwerthoedd a hobïau tebyg â chi.

Gall gweithgareddau fel gwirfoddolwr amrywio o godi’r ffôn i gael sgwrs, i dreulio amser yn mynd i’r sinema neu siopa, a bydd pob un o’r rhain yn helpu oedolyn agored i niwed i deimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymuned leol.
 
Darganfod mwy: https://bit.ly/3OqdGkn

Y mis yma dwi’n addo dechrau a gorffen pob sgwrs yn Gymraeg.
 
Drwy ychwanegu’r ychydig eiriau hyn at eich geirfa, rydych chi'n integreiddio’r Gymraeg i’ch bywyd bob dydd.
Gall dechrau sgyrsiau gyda chyfarchiad Cymraeg hefyd helpu i dorri'r iâ, gan annog eraill i ateb yn Gymraeg ac ati.

Rhowch gynnig arni, a gweld sut y byddwch chi'n dod ymlaen.

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain dilynwch @CaerphillyCBC ar Facebook a Twitter.


Ymholiadau'r Cyfryngau