News Centre

Mae caws yn ôl ar y fwydlen yn nhref Caerffili

Postiwyd ar : 10 Meh 2022

Mae caws yn ôl ar y fwydlen yn nhref Caerffili
Gŵyl Caws Bach Caerffili

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi, er nad oes modd cynnal Gŵyl Caws Mawr Caerffili yn ei fformat arferol eleni, oherwydd gwaith datblygu sy'n digwydd yng Nghastell Caerffili, bydd digwyddiad amgen yn cael ei gynnal yn 2022, sef Gŵyl Caws Bach Caerffili!

Ar 3 a 4 Medi, bydd Gŵyl Caws Bach Caerffili yn digwydd yng nghanol tref Caerffili ar ffurf digwyddiad cerdd gyda nifer o ardaloedd cerdd ar hyd Cardiff Road a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell, yn ogystal â phrif lwyfan ym Maes Parcio'r Twyn.

Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i'r plant hefyd.

Cadwch lygad yn agored am ddiweddariadau pellach!

Ewch i wefan Visit Caerphilly am ddiweddariadau pellach!

Ar gyfer pob ymholiad am y digwyddiad, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau