News Centre

Bydd Hyb Cymorth i Gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog Caerffili yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf yn fuan

Postiwyd ar : 08 Meh 2022

Bydd Hyb Cymorth i Gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog Caerffili yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf yn fuan
Wrth iddo agosáu at ben-blwydd cyntaf lansiad Hyb Cymorth i Gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog Caerffili, mae’r cyd-sefydlwyr, Lisa Rawlings a Kelly Farr, yn myfyrio’n ôl dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ystod y sesiwn agoriadol ym mis Mehefin 2021, roedd ond 4 cyn-aelod y Lluoedd Arfog yn eistedd o amgylch bwrdd. Wrth fynd ymlaen i fis Mehefin 2022, mae ganddyn nhw dros 40 o gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd ym mhob sesiwn yn rheolaidd, weithiau llawer mwy! Mae cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog eisiau cael cyfleoedd i ddod at ei gilydd, i deimlo eu bod yn “perthyn” i rywbeth, fel y gwnaethon nhw pan oedden nhw’n gwasanaethu.
 
Mae llawer o gymorth ar gael i gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, ond nid yw llawer ohonyn nhw'n cael mynediad at y gwasanaethau, yn bennaf oherwydd balchder. Mae'r Hyb Cymorth hwn yn fwy na dim ond cael sgwrs a pheint; mae hon yn rhaff achub hanfodol i lawer ac mae rhai o’r cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn uchel eu cloch ynglŷn â pha mor bwysig mae'r Hyb wedi bod iddyn nhw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd y cymorth anhygoel y maen nhw wedi’i gael.
 
Bob wythnos, mae sefydliadau gwahanol yn bresennol, gan gynnig cyngor, cefnogaeth a chymorth gyda materion fel budd-daliadau, tai, rheoli dyled ac iechyd meddwl. Mae’r sefydliadau hyn yn dod, yn rhad ac am ddim ac, fel arfer, yn eu hamser eu hunain gan fod yr Hyb ar agor ar fore Sadwrn. Maen nhw'n cael ymweliadau cymorth rheolaidd gan Cornerstone Support, Cyngor ar Bopeth, Woody’s Lodge, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Change Step, yr Adran Gwaith a Phensiynau a YourNorth. Yn ogystal â’r cymorth uchod sydd ar gael, mae 'Guitars for Veterans – Wales' yno bob wythnos, yn darparu gwersi gitâr am ddim i gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.
 
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o deithiau a digwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, gan gynnwys gêm ryngwladol yr hydref Cymru yn erbyn Fiji yn Stadiwm Principality, Parti Nadolig i’r teuluoedd, teithiau i’r Ardd Goed Coffa Genedlaethol a’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol ac, yn ddiweddar, noson gymdeithasol yng Nghlwb Rygbi Senghenydd er mwyn codi arian.
 
Y prif resymau dros agor yr Hyb oedd mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd, gyda ffocws cryf ar wella lles meddwl. Yn aml, gall cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog wynebu heriau eraill yn ystod y cyfnod pontio ac integreiddio i fywyd sifil. Yn ogystal â’r heriau hyn, mae’r cyfyngiadau a’r newidiadau i’n ffordd o fyw ni sydd wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi effeithio ar gynifer o bobl, ac mae’r Hyb yn annog pobl i ddechrau cymysgu ag eraill, gan ddarparu cyfleoedd cymorth i wella eu lles nhw.
 
Cafodd y nodau hyn  eu cyflawni drwy ddod â grŵp o unigolion o'r un anian at ei gilydd a chreu man diogel lle maen nhw i gyd yn gall rhannu cymaint o brofiadau ag y maen nhw eisiau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae dod â chymuned o bobl ynghyd a chyfuno cefnogaeth a mynediad at weithgareddau rheolaidd yn gwneud rhyfeddodau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol ac yn caniatáu i bobl fagu hyder i ryngweithio ac adeiladu cymuned sy'n gefnogol i bawb dan sylw.
 
Os hoffech chi ddod i Hyb Cymorth i Gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog Caerffili, maen nhw'n cwrdd:

Bob dydd Sadwrn
10am–12pm
Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach, Caerffili CF82 7EP

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch YLluoeddArfog@caerffili.gov.uk
 
Mae croeso i bob cyn- aelod y Lluoedd Arfog!


Ymholiadau'r Cyfryngau