News Centre

Digwyddiad Swyddi Gwag Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dychwelyd

Postiwyd ar : 17 Meh 2022

Digwyddiad Swyddi Gwag Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dychwelyd
Bydd digwyddiad poblogaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, 'Pa Ffordd Nawr?' yn dychwelyd ar 12 Gorffennaf 2022.

Yn y gorffennol, mae'r digwyddiad wedi denu cannoedd o bobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Mae’r digwyddiad, sydd mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, wedi’i anelu at ymadawyr ysgol a phobl ifanc 16-24 oed sy’n chwilio am gyngor ac ysbrydoliaeth am ba lwybr gyrfa i’w gymryd nesaf.

Bydd amrywiaeth o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn bresennol, a byddan nhw'n cynnig amrywiaeth eang o gyngor, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.

Dyma rai enghreifftiau:
  • Gwybodaeth am gyrsiau yn y coleg gan Goleg y Cymoedd a Choleg Gwent
  • ​Gwybodaeth am addysg uwch a chyfleoedd prifysgol
  • Gwybodaeth am hyfforddeiaethau a phrentisiaethau
  • Swyddi gwag lleol
  • Cyngor cyffredinol o ran gyrfaoedd
  • Cymorth o ran sgiliau chwilio am swydd 

Meddai'r Cynghorydd Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cynnal y digwyddiad, Which Way Now? ochr yn ochr â Gyrfa Cymru eto eleni.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd addysg a chyflogaeth ar gyfer ein holl drigolion ifanc, ac rydyn ni'n falch iawn o allu gweithio gyda'n partneriaid eto ar ôl llawer o flynyddoedd o gynnal y digwyddiad hwn yn llwyddiannus."

Bydd Pa Ffordd Nawr? yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerffili ddydd Mawrth 12 Gorffennaf rhwng 10am a 4pm. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â John Poyner (Cydlynydd Ymgysylltu a Dilyniant, Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili) ar 01443 864970.
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau