News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llwyddiannus yn rownd derfynol Menter yr Ifanc Cymru

Postiwyd ar : 07 Meh 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llwyddiannus yn rownd derfynol Menter yr Ifanc Cymru
Mae tri o addysgwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Menter yr Ifanc Cymru, eleni.
 
Cafodd Coleg Gwent, Ysgol Gyfun Coed Duon ac Ysgol Gyfun Martin Sant wobrau yng Ngwobrau Menter yr Ifanc Cymru 2022.
 
Mae Menter yr Ifanc yn elusen genedlaethol sy'n gweithio yn uniongyrchol gyda phobl ifanc, athrawon, rhieni, busnesau a dylanwadwyr i helpu pobl ifanc i ennill y sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yn y byd go iawn trwy roi'r sgiliau gwaith, yr wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw.
 
Yn ystod y seremoni wobrwyo, enillodd cwrs Sgiliau Byw'n Annibynnol Coleg Gwent y wobr ar gyfer Gwobr Rhaglen Tîm i Fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Daeth Ysgol Gyfun Coed Duon yn ail yn y categori Cwmni'r Flwyddyn; fodd bynnag, cafodd y wobr ei chipio gan Ysgol Gyfun Martin Sant, a gafodd ei henwi'n Gwmni'r Flwyddyn 2022.
 
Meddai'r disgyblion, Freya Roberts ac Emily Clarke, sy'n fyfyriwr-gyfarwyddwyr yn y cwmni buddugol, o'r enw ‘Covered!’, “Roedd bod yn rhan o'r rhaglen Menter yr Ifanc yn gyfle gwych. Rydyn ni'n hynod falch ohonon ni'n hunain am ddilyn ein syniad drwodd ac, yn y pen draw, ddod yn llwyddiannus. Fe wnaethon ni fwynhau gweithio fel tîm ac roedd sgiliau pawb o fudd i'n cwmni ni.”
 
Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Da iawn i Goleg Gwent, Ysgol Gyfun Coed Duon ac Ysgol Gyfun Martin Sant am eu llwyddiant yng Ngwobrau Menter yr Ifanc, eleni.
 
“Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili uchelgeisiau beiddgar i roi'r cyfleoedd bywyd gorau i bob dysgwr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hyn trwy gyfuniad o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a sgiliau ar gyfer y byd go iawn.”
 
Mae rhaglenni Menter yr Ifanc, fel y rhaglenni ‘Cwmni’ a ‘Tîm’, yn rhoi'r sgiliau, y cymwyseddau a'r meddylfryd i bobl ifanc wneud y gorau o gyfleoedd a heriau pob dydd. Mae bod yn fentrus yn rhywbeth mae modd ei ddefnyddio ym mhob agwedd ar fywyd a byd gwaith – nodi cyfleoedd, a chychwyn arnyn nhw.
 
Os hoffech chi fod yn rhan o unrhyw un neu ragor o raglenni Menter yr Ifanc, cysylltwch â Bethany Young, Menter yr Ifanc, drwy ffonio 07384 215344 neu anfon e-bost i bethany.young@y-e.org.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau