News Centre

Nodyn atgoffa – Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl

Postiwyd ar : 13 Meh 2022

Nodyn atgoffa – Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
Proses ymgeisio ar agor ar gyfer Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl gwerth £500

Gall gofalwyr di-dâl cymwys ym Mwrdeistref Sirol Caerffili nawr wneud cais am daliad cymorth o £500 sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae taliad untro o £500 ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn cael Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022.

Mae'r taliad yn cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol maen nhw wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol maen nhw wedi’u hwynebu.  Targedir y taliad tuag at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel.

Nid yw unigolion yn gymwys i gael y taliad os: -

  • oes ganddynt hawl sylfaenol i gael Lwfans Gofalwyr ond nad ydynt yn cael taliad oherwydd eu bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch; neu
  • eu bod yn cael premiwm gofalwr mewn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd. 

Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn gymwys i gael y cymorth hwn, gallwch gyflwyno hawliad drwy’r wefan hon o 9am ar 16 Mai 2022 ymlaen.

Rhaid derbyn pob ffurflen gofrestru cyn 5pm ar 15 Gorffennaf 2022. Bydd taliadau ar gyfer hawliadau llwyddiannus yn cael eu gwneud o fis Mehefin tan ddiwedd mis Medi 2022.

Cofiwch, dylech gofrestru gyda’r Cyngor lle rydych chi’n byw, nid y Cyngor lle mae’r person rydych chi’n gofalu amdano’n byw (os yw’n wahanol).

Ewch i www.caerffili.gov.uk i wneud cais am y Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl.
 

 



Ymholiadau'r Cyfryngau