News Centre

Cynlluniau i adnewyddu cyrtiau tennis mewn parc lleol yng mwrdeistref sirol Caerffili

Postiwyd ar : 28 Gor 2023

Cynlluniau i adnewyddu cyrtiau tennis mewn parc lleol yng mwrdeistref sirol Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) wedi cyhoeddi partneriaeth i fuddsoddi mewn cyrtiau tennis parciau cyhoeddus yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn eu hadnewyddu. Ar y cyfan, bydd chwe lleoliad tennis yn cael eu hadnewyddu, gyda buddsoddiad o £377,828.22 yn helpu sicrhau bod cyfleusterau o safon ar gael i'r gymuned leol. 
 
Mae'r prosiect yn rhan o fuddsoddiad cenedlaethol gan Lywodraeth y DU ac elusen y Sefydliad Tennis, sy'n cael ei ddarparu gan yr LTA, i adnewyddu cyrtiau tennis cyhoeddus ledled Prydain Fawr a chyflwyno'r gamp i ragor o bobl. Oherwydd y buddsoddiad hwn, bydd miloedd o gyrtiau tennis parc presennol sydd mewn cyflwr gwael neu gyrtiau nad oes modd chwarae arnyn nhw yn cael eu hadfywio er budd cymunedau ledled y wlad trwy waith adnewyddu, a gwell hygyrchedd i gyrtiau gyda thechnoleg mynediad â gât a systemau newydd i gadw lle.
 
Yn ogystal â'r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a Sefydliad Tennis LTA, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn buddsoddi £135,829.11. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd yn gweithio gyda'r LTA i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau ar draws safleoedd y parciau. Bydd Local Tennis Leagues hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i fod yn egnïol trwy gystadlaethau lleol. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Bydd y gwaith partneriaeth gyda’r LTA yn hyrwyddo a datblygu tennis nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y cyfleusterau newydd yn darparu rhagor o gyfleoedd i'n trigolion ni fod yn fwy egnïol, yn fwy aml. Rydw i’n siŵr y bydd cyrtiau tenis y parciau cyhoeddus ar eu newydd wedd yn cael eu defnyddio’n helaeth ac yn cael eu mwynhau gan bawb.”
 
Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu’r LTA, “Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i wella eu cyfleusterau tennis mewn parciau a darparu rhagor o gyfleoedd i unrhyw un godi raced a bod yn egnïol. Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o Brosiect Tennis Parciau Llywodraeth y DU a’r LTA, a fydd yn gwneud i gyrtiau fod ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Byddwn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau bod gan y gymuned leol ystod o gyfleoedd hygyrch i fynd ar y cwrt, ac agor ein camp i ragor o bobl.”
 
Y cyrtiau tennis sy'n cael eu hadnewyddu yw: Maes y Sioe, Coed Duon; Ystrad Mynach; Morgan Jones; Pont-y-meistr; Parc Rhymni; a Maes Chwarae Ynys-ddu. Bydd modd cadw lle ar yr holl gyrtiau ar-lein trwy wefan yr LTA. Dechreuodd y gwaith ar y safleoedd ym mis Mai 2023 ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf 2023.


Ymholiadau'r Cyfryngau