News Centre

Cynllun Rhannu bwyd a Chaffi Cwtsh yn darparu cymorth hanfodol i breswylwyr

Postiwyd ar : 27 Gor 2023

Cynllun Rhannu bwyd a Chaffi Cwtsh yn darparu cymorth hanfodol i breswylwyr
Mae Canolfan Gymunedol y Fan, sy'n cael ei rheoli gan bwyllgor gwirfoddol, wedi bod yn darparu cymorth angenrheidiol i'r gymuned leol a phreswylwyr. 
 
Mae'r cynllun rhannu bwyd a'r "Caffi Cwtsh", sy'n cael eu cynnal yn wythnosol yn y ganolfan gymunedol, yn darparu cymorth i breswylwyr sy'n dioddef effaith yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd.
 
Mae gwirfoddolwyr Canolfan Gymunedol y Fan yn rhannu bwyd pob dydd Llun yn ystod tymor yr ysgol i gynorthwyo preswylwyr i roi bwyd ar eu byrddau gartref a gwasanaeth brecwast am ddim i'r rhai mewn angen. Mae'r Caffi Cwtsh ar agor bob prynhawn Gwener 2pm tan 4pm, ac yn darparu pryd a phwdin am ddim. Mae'r Caffi yn hollbwysig i rai preswylwyr sydd hefyd yn darparu adloniant ar ddydd Gwener, fel bingo a chwisiau wythnosol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Cadeirydd Canolfan Gymunedol y Fan "Rydw i'n cydnabod rhan hollbwysig y cynllun rhannu bwyd a gofod cymunedol wrth gynorthwyo ein preswylwyr. Bydd y cynllun rhannu bwyd a Chaffi Cwtsh yng Nghanolfan Gymunedol Fan yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd a phreswylwyr yr ydym ni'n eu cynorthwyo'n wythnosol".
 
Mae'r gwirfoddolwyr a wnaeth lansio’r cynllun rhannu bwyd a’r Chaffi Cwtsh ar gyfer preswylwyr y Fan yn awyddus i groesawu pwy bynnag sydd angen eu mynychu.
 
Oes angen cymorth a chyngor am gostau byw arnoch chi? Rydyn ni wedi casglu gwybodaeth ddefnyddiol i'ch cefnogi chi: https://www.caerphilly.gov.uk/cymorth-costau-byw
 


Ymholiadau'r Cyfryngau