News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu ennill sawl gwobr am fannau gwyrdd

Postiwyd ar : 28 Gor 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu ennill sawl gwobr am fannau gwyrdd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael ei wobrwyo unwaith eto am ei ymrwymiad i gynnal mannau gwyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae Gwobr y Faner Werdd yn dathlu'r parciau a mannau gwyrdd gorau yn y Deyrnas Unedig, gydag wyth o fannau gwyrdd y Fwrdeistref Sirol wedi ennill y Faner Werdd yn seremoni eleni. 

Yn ogystal â'r cyflawniad rhyfeddol hwn, mae 16 o safleoedd eraill yn y Fwrdeistref Sirol wedi derbyn Gwobr Gymunedol Cadwch Gymru'n Daclus. Mae'r gwobrau hyn yn rhoi Bwrdeistref Sirol Caerffili ymhlith y goreuon, gyda'r trydydd mwyaf o wobrau (cyfanswm o 24) wedi'u derbyn gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae'r cynllun Gwobr y Faner Werdd, sy'n enwog am gydnabod parciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu cynnal yn eithriadol o dda ledled y byd, yn cydnabod y cyfleusterau gwych i ymwelwyr a safonau amgylcheddol uchel sydd i'w gweld yn y lleoliadau sy'n cael eu gwobrwyo. Mae'r gydnabyddiaeth eleni yn dangos ymroddiad y Cyngor, ei staff, a gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed yn gyson i gynnal y safonau uchaf yn y mannau gwyrdd.

Dyma'r wyth man gwyrdd sydd wedi ennill gwobr fawreddog y Faner Werdd:
  • Parc Morgan Jones
  • Parc Ystrad Mynach
  • Ffordd Goedwig Cwmcarn
  • Tŷ Penallta
  • Mynwent Brithdir
  • Parc Waunfawr, Crosskeys
  • Parc Cwm Darran
  • Parc Penallta

Mae 280 o barciau a mannau gwyrdd ledled y wlad wedi derbyn gwobr fawreddog y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.

Mae'r cynllun Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru, sy'n cael ei arwain gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth annog gwaith datblygu a chynnal mannau gwyrdd er budd y gymuned.

Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd,

“Yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae gennym ni barciau a mannau gwyrdd gwych, ac mae staff yn gweithio'n hynod o galed i sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal yn y mannau gwobrwyol hyn. Rydw i'n falch iawn o weld ein hwyth o safleoedd Baner Werdd yn cadw eu statws am flwyddyn arall. Rydw i hefyd yr un mor falch o weld bod 16 o safleoedd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd sy'n cydnabod ymrwymiad gwirfoddolwyr ledled y Fwrdeistref Sirol, sy'n rhoi o'u hamser nhw eu hunain i gynnal yr asedau cymunedol hyn.

“Ni oedd y cyngor a enillodd y drydydd mwyaf o wobrau allan o'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru, gan ddangos ein hymrwymiad i fannau gwyrdd yma yn y Fwrdeistref Sirol. Da iawn i bawb dan sylw!”

Am restr lawn o enillwyr gwobrau, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus yn www.keepwalestidy.cymru/cy.


Ymholiadau'r Cyfryngau