News Centre

​Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2022

Postiwyd ar : 06 Gor 2022

​Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2022
Teclynwyr

Mae’r Asiantaeth Ddarllen a llyfrgelloedd Caerffili yn gyffrous i gyflwyno Teclynwyr, sef Sialens Ddarllen yr Haf ar gyfer 2022.

Bydd y sialens yn cael ei rhedeg rhwng dydd Sadwrn 9 Gorffennaf a dydd Sadwrn 10 Medi ym mhob llyfrgell ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae gwyddoniaeth o'ch cwmpas chi! Beth ydych chi'n dwlu ar wneud? Ydych chi'n bobydd gwych? Neu gefnogwr cerddoriaeth brwd? Ai chi yw'r dewin technoleg ymhlith eich ffrindiau chi?

Ymunwch â'r Teclynwyr ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf i ddarganfod yr wyddoniaeth a'r arloesedd anhygoel y tu ôl i'r byd o'ch cwmpas chi, gan gynnwys rhai o'ch hoff bethau chi!

Chwilfrydig? Perffaith! Mae eich dychymyg yn gallu datgloi posibiliadau diddiwedd… Rydyn ni’n ymuno â’r ‘Science Museum Group’ ar gyfer sialens arbennig iawn ar thema wyddonol a fydd yn eich ysbrydoli chi i ddefnyddio’ch dychymyg a’ch creadigrwydd chi!

Bydd Teclynwyr yn cynnwys llyfrau anhygoel, gwobrau gwych, a digon o syniadau ar gyfer arbrofion a gweithgareddau diddorol i ddarganfod yr wyddoniaeth o'ch cwmpas chi. Daw’r sialens yn fyw gan yr awdur plant a’r darlunydd enwog, Julian Beresford.

Mae’r sialens ddarllen boblogaidd yn annog darllen er pleser dros wyliau’r haf, gan feithrin sgiliau darllen a hyder a helpu atal y ‘gostwng’ mewn sgiliau darllen tra bod plant allan o’r ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Mae gofyn i blant ddarllen chwe llyfr i helpu’r Teclynwyr ac, ar yr un pryd, gallan nhw ddarganfod yr wyddoniaeth a’r arloesedd rhyfeddol sydd y tu ôl i’r byd o’u cwmpas nhw.

“Rydw i’n gobeithio y bydd sialens ‘Teclynwyr’ eleni yn ysbrydoli pob plentyn i ddefnyddio eu llyfrgell leol nhw ac i ddarllen llawer o lyfrau gwych drwy gydol yr haf a thu hwnt.”

Bydd plant yn cael gwobrau bach am bob un o’r llyfrau y maen nhw'n eu darllen ac, os ydyn nhw'n cwblhau’r sialens a darllen 6 llyfr, byddan nhw'n ennill eu tystysgrif Teclynwyr a medal.

Bydd raffl hefyd ar gyfer pob plentyn sydd wedi cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf a bydd enillydd y Brif Wobr, a fydd yn cael ei ddewis o blith yr holl blant sydd wedi cwblhau’r Sialens, yn ennill taleb gwerth £100.

Mae plant yn gallu darllen unrhyw lyfr llyfrgell o'u dewis – ffuglen, llyfrau ffeithiol neu lyfrau lluniau, eLyfrau neu e-lyfrau llafar.

Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am Sialens Ddarllen yr Haf eleni drwy ddilyn Llyfrgelloedd Caerffili ar Facebook neu Twitter.



Ymholiadau'r Cyfryngau