News Centre

Dweud eich dweud ar Hawliau Tramwy Rhisga

Postiwyd ar : 28 Gor 2022

Dweud eich dweud ar Hawliau Tramwy Rhisga

Mae CBS Caerffili yn ceisio barn trigolion ar y cynllun arfaethedig i osod rhwystrau ar ddwy Hawl Dramwy Gyhoeddus yn Rhisga.

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn hawliau ar diroedd lle mae modd i’r cyhoedd gael mynediad iddyn nhw, ac sy’n eu galluogi i fynd ar eu hyd unrhyw bryd y maen nhw’n dymuno.

Gallwch gerdded ar hyd pob Hawl Dramwy Gyhoeddus. Mae rhai Hawliau Tramwy Cyhoeddus hefyd yn agored i farchogion, seiclwyr a cherbydau.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i warchod defnyddwyr Hawliau Tramwy Cyhoeddus rhag defnydd anghyfreithlon ac yn cynnig gosod rhwystrau ar lwybr troed cyhoeddus 102 yn hen Blwyf y Graig a 177 yn hen Blwyf Rhisga

Rydyn ni eisiau clywed eich barn er mwyn helpu i nodi unrhyw broblemau posib y gallai gosod ‘Rhwystr-K’ eu hachosi i gerddwyr, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn a defnyddwyr cerbydau symudedd.

Gallwch chi weld lleoliad y rhwystrau arfaethedig a dweud eich dweud ar wefan y Cyngor.

  • Dweud eich dweud Gosod rhwystr newydd ar lwybr troed cyhoeddus 102 yn hen Blwyf y Graig (Rhisga) (cyf: 22/s66/0001).
  • Dweud eich dweud Gosod rhwystr newydd ar lwybr troed cyhoeddus 177 yn hen Blwyf Rhisga (cyf: 22/s66/0002) https://bit.ly/3nYsj3n

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 15 Awst.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 866669 neu anfon e-bost at hawliautramwy@caerffili.gov.uk, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod.

 
 [HCG1]Hawl - unigol, benywaidd
 

unigol: Hawl Dramwy Gyhoeddus
Lluosog: Hawliau Tramwy Cyhoeddus
 
Dau (g)
Dwy (b)

  • Have your say Installation of a new barrier on public footpath 102 in the former Parish of Graig (Risca) (ref: 22/s66/0001) https://bit.ly/3uJNg5N  
  • Have your say Installation of a new barrier on public footpath 177 in the former Parish of Risca (ref: 22/s66/0002) 

The consultation closes on 15th August.

If you require any information, please call 01443 866669 or email rightsofway@caerphilly.gov.uk quoting the reference number.



Ymholiadau'r Cyfryngau