Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Gorffennaf 2022
Seremoni i ddathlu blwyddyn ers ail-agor Ffordd Goedwig Cwmcarn
News Centre
Seremoni i ddathlu blwyddyn ers ail-agor Ffordd Goedwig Cwmcarn
Postiwyd ar : 06 Gor 2022
Cynhaliwyd seremoni swyddogol i ddathlu ail-agor Ffordd Goedwig Cwmcarn heddiw (6 Gorffennaf) flwyddyn ers i’r Ffordd allu croesawu ymwelwyr mewn cerbydau am y tro cyntaf. Mae Ffordd Goedwig Cwmcarn yn un o ganolfannau darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd (VRP).
Ail-agorwyd y Ffordd yn swyddogol i’r cyhoedd ar 21 Mehefin y llynedd, ond oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws a oedd ar waith ar y pryd, nid oedd modd cynnal seremoni ail-agor swyddogol.
Roedd y Ffordd wedi bod ynghau am chwe blynedd er mwyn gallu cwblhau gweithrediadau coedwig hanfodol i dynnu 160,000 o goed llarwydd a oedd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum, (clefyd y llarwydd).
Ymunodd cynrychiolwyr o’r grwpiau cymunedol Ffrindiau Ffordd Goedwig Cwmcarn a Chymdeithas Twmbarlwm, a fu’n ganolog i lwyddiant yr ail-agoriad, gyda swyddogion etholedig am daith ar hyd y Ffordd i ddathlu popeth sydd gan Cwmcarn i’w gynnig.
Fel rhan o’r daith, cafodd tair coeden ffawydd newydd eu plannu ger y maes chwarae antur ym maes parcio pedwar i ddathlu’r pen-blwydd.
Cafodd y Ffordd 7 milltir o hyd – yr unig Ffordd Goedwig o’i math yng Nghymru – fywyd newydd y llynedd yn dilyn gwaith datblygu dros gyfnod o flwyddyn, a chafodd y ffordd ei gweddnewid yn sylweddol o ganlyniad i gydweithrediad llwyddiannus rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r gymuned leol.
Cafodd y safle ei ddylunio i fod mor hygyrch â phosibl ac mae’n cynnig rhywbeth i bob math o ymwelydd - o lwybrau beicio mynydd cyffrous i ardaloedd tawel ar gyfer meddylgarwch a lles, i lwybrau addysgiadol i anturiaethwyr ifanc er mwyn dysgu mwy am y goedwig a’i greaduriaid.
Cafodd nifer o lwybrau pob gallu hefyd eu creu gyda mynediad i bawb, ynghyd â nifer o ardaloedd picnic newydd ar gyfer cinio hamddenol a chaban pren gyda golygfeydd hyfryd ar draws y cwm.
Meddai Geminie Drinkwater, Uwch Swyddog Rheoli Tir ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae hi wedi bod yn braf gallu croesawu cymaint o ymwelwyr o bob cwr o Gymru yn ôl i’r safle hardd ac unigryw hwn dros y flwyddyn ddiwethaf ac i weld pobl yn mwynhau ac yn darganfod popeth sydd gan Cwmcarn i’w gynnig.
“Mae Cwmcarn yn ased mor bwysig ac mae’n darparu llecyn gwyrdd gwerthfawr i drigolion lleol a thwristiaid fel ei gilydd. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos i ni pa mor bwysig yw ardaloedd fel hyn o ran ein lles corfforol a meddyliol.
“Roedd heddiw yn gyfle i ni allu dod at ein gilydd i ddathlu popeth sydd wedi cael ei gyflawni ar y cyd wrth ail-ddatblygu Ffordd y Goedwig, ac i longyfarch pawb am eu hymdrechion, gan gynnwys y buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru a chronfa Parc Rhanbarthol y Cymoedd.
“Ers dechrau’r prosiect hwn, rydym ni wedi gweld cefnogaeth a chyfranogiad gwych gan unigolion a grwpiau cymunedol lleol sydd wedi bod yn hanfodol i helpu i lywio’r prosiect i’r hyn a welwch yma heddiw. Rwy’n sicr y bydd yn cael ei thrysori gan nifer fawr o bobl am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, sy’n Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
“Mae wedi bod yn bleser gweld â’m llygaid fy hun ganlyniadau'r ymdrechion a cydweithredol i adfer a gwella Ffordd Goedwig eiconig Cwmcarn.
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y ffordd a llawr y dyffryn, mae’r safle, sydd mewn ardal eang 1,400 hectar o faint, wedi'i drawsnewid yn llwyr i fod yn fwy cynaliadwy a chynnig profiad gwerth chweil i ymwelwyr.
Erbyn hyn mae gan y safle ystod eang o gyfleusterau newydd a gwell gan gynnwys llety o'r radd flaenaf, a chanolfan ymwelwyr arobryn, ac mae’r cyfan wedi’i amgylchynu gan dirwedd odidog.
Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i gydweithio â'n partneriaid i barhau i fuddsoddi a gwella ein gwasanaethau nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Trefnwch eich ymweliad â Ffordd Goedwig Cwmcarn yma: Cwmcarn Forest Drive -
https://www.cwmcarnforest.co.uk/cy/
Y costau mynediad ar gyfer ffordd y goedwig yw: £8 am gar, £4 am feic modur, £15 am fws mini a £30 am fws. Derbynnir arian parod yn unig wrth y rhwystr neu gellir casglu tocyn o’r dderbynfa ar y safle. Mae’r ffordd yn gweithredu system unffordd ac nid oes unrhyw gyfyngiadau amser ar ymwelwyr.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y