News Centre

​Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn mynd i'r afael â phryderon y gymuned

Postiwyd ar : 08 Gor 2022

​Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn mynd i'r afael â phryderon y gymuned

Mae’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd newydd Cyngor Caerffili, wedi rhoi diweddariad ar ddau fater allweddol sydd wedi bod yn achosi pryder yn y gymuned am beth amser.

Meddai’r Cynghorydd Morgan, “Yn gyntaf, rydw i'n gallu cyhoeddi bod cynlluniau i ehangu Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod bellach yn cael eu hadolygu.

“Mae cynlluniau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer ymestyn yr ysgol flaenllaw hon yn Ystrad Mynach ar gyfer plant ag anghenion arbennig. Byddai’r cynnig gwreiddiol wedi arwain at golli cae chwaraeon cyfagos i wneud lle ar gyfer y gwaith ymestyn arfaethedig, felly, rydyn ni'n awr yn edrych ar opsiynau newydd i gyflawni’r cynllun gyda llai o effaith ar yr ardal gyfagos.

“Mae’r staff anhygoel yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod yn cefnogi’r plant a’r bobl ifanc mwyaf bregus yn ein cymuned ni, ond mae angen i’r ysgol dyfu oherwydd ein bod ni'n gweld galw cynyddol am leoedd. Fodd bynnag, rydw i hefyd wedi gwrando ar y pryderon y mae'r gymuned wedi'u codi ynghylch y posibilrwydd o golli mannau gwyrdd, felly, mae angen i ni ddod o hyd i ateb arall.

“Mae trafodaethau’n parhau gyda’r ysgol, ond rydw i’n hyderus y bydd yn bosibl cytuno ar opsiynau sy’n caniatáu i ni gynyddu capasiti’r ysgol heb effeithio ar y cae chwaraeon cyfagos. Byddwn ni'n darparu diweddariadau pellach maes o law, ond rydw i’n siŵr y bydd y gymuned gyfan yn croesawu’r newyddion cadarnhaol hwn.

“Y mater arall yr hoffwn i ei egluro yw sefydlu grŵp cyswllt trigolion ar gyfer y gweithrediadau yn Chwarel y Bryn ger Gelligaer.

“Unwaith eto, rydw i’n ymwybodol iawn o bryderon parhaus yn y gymuned leol ac rydw i'n gallu cadarnhau ein bod ni'n bwriadu ailgychwyn y grŵp cyswllt, gyda chydweithrediad a chytundeb llawn Bryn Group, yn yr hydref.

“Bydd y penderfyniad hwn, ynghyd â mesurau ymgysylltu cymunedol eraill, yn cael eu hystyried gan y Cabinet dros y misoedd nesaf. Cyn gynted ag y byddwn ni wedi cytuno ar fanylion, caiff y rhain eu cyfathrebu'n llawn i bob parti.

“Rydw i’n gobeithio bod y diweddariad hwn yn dangos yn glir ein bod ni'n gwrando ar bryderon gwirioneddol sy’n cael eu codi gan y gymuned ac y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bob amser yn edrych am y ffordd orau ymlaen i bawb.”
 



Ymholiadau'r Cyfryngau