Mae Parti Traeth yn dod i Goed Duon
Postiwyd ar : 15 Gor 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Coed Duon yn falch o gyhoeddi bod Parti Traeth Coed Duon yn dod i’r dref!
Ddydd Sadwrn 10 Medi, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan.
Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu prif lwyfan gyda rhaglen adloniant lawn drwy’r dydd, a fydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.
Bydd canol tref Coed Duon yn ferw o brysurdeb, gan roi hwb i nifer yr ymwelwyr â’r manwerthwyr a lleoliadau lletygarwch lleol, felly, cofiwch roi’r dyddiad yn y dyddiadur!
Cyngor Tref Coed Duon sy’n ariannu’r digwyddiad, a Thîm Digwyddiadau Caerffili sy’n ei drefnu. Mae’r ddau bartner yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i ganol tref Coed Duon i fwynhau’r digwyddiad blynyddol poblogaidd y mae pawb wedi gweld ei eisiau ers cyn COVID-19.
Mae'r newyddion diweddaraf am Barti Traeth Coed Duon ar gael ar wefan Croeso Caerffili.
https://www.visitcaerphilly.com/