News Centre

Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern yn ennill 12fed gwobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Postiwyd ar : 20 Gor 2022

Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern yn ennill 12fed gwobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig
Mae Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern wedi casglu ei 12fed gwobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn eu seremoni wobrwyo ddiweddar, a gafodd ei chynnal eleni yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
 
Ar gyfer testun dyniaethau tymor gwanwyn yr ysgol, ‘Taith Trwy Trethomas’, fe wnaeth pob dosbarth ymchwilio i hanes rhai adeiladau yn yr ardal ac o’i chwmpas. Cafodd eu canfyddiadau nhw eu defnyddio i gynhyrchu’r llwybr cerdded newydd a chyffrous – Y TTT.
 
Mae pob tirnod neu adeilad yn dangos arwydd sydd â disgrifiad byr a chod QR. Tra yn y lleoliad, gall cerddwyr sganio'r cod QR i ddarganfod rhagor am hanes yr adeilad yn ogystal â chael gwybod faint o gamau mae wedi'u cymryd i gyrraedd y pwynt hwnnw o'r daith.
 
Dywedodd y beirniaid, “Dangosodd y disgyblion wybodaeth fanwl, gwnaethon nhw wir fwynhau cael gwybod rhagor am eu hardal leol nhw ac roedden nhw'n angerddol am rannu’r prosiect gyda’r gymuned ehangach.”
 
Yn sgil y prosiect, enillodd yr ysgol wobr o fwy na £1,000.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Llongyfarchiadau i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern! Mae'r llwybr gwych hwn yn hynod deilwng o wobr fawreddog Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Dylech chi i gyd fod yn hynod falch o'ch cyflawniadau chi.
 
“Byddwn i'n annog trigolion i gerdded y llwybr os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, ac rydw i'n gobeithio y bydd y gymuned leol yn gallu ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.”
 
Mae'r llwybr yn dal ar gael i'r gymuned ei fwynhau; mae mapiau ar gael o'r ysgol a siopau lleol.


Ymholiadau'r Cyfryngau