News Centre

DWY FILIWN o brydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu gan Dîm Caerffili

Postiwyd ar : 27 Gor 2022

DWY FILIWN o brydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu gan Dîm Caerffili
Mae llu ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr wedi helpu i ddosbarthu dros ddwy filiwn o brydau ysgol am ddim i deuluoedd ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili ers dechrau’r pandemig.
 
Mae Cyngor Caerffili wedi derbyn canmoliaeth genedlaethol am ei ddull uchelgeisiol, sydd wedi sicrhau bod plant cymwys a’u teuluoedd wedi derbyn parseli bwyd iachus a maethlon wedi’u dosbarthu yn uniongyrchol i’w stepen drws.
 
Yn ogystal â chael amrywiaeth o brydau parod blasus, mae teuluoedd lleol hefyd wedi derbyn bara, llaeth, a ffrwythau a llysiau ffres.
 
Mae’r ystadegau trawiadol hyd yn hyn yn cynnwys:
 
Prydau Ysgol am Ddim wedi’u dosbarthu 2,124,030
Prydau wedi’u dosbarthu fesul wythnos 36,490
Plant sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim 7,298
Milltiroedd wedi’u teithio gan y tîm dosbarthu 78,000
Gwirfoddolwyr 100
Cerbydau sydd eu hangen i ddosbarthu bob wythnos 220
 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Gyda chynifer o deuluoedd yn profi effeithiau dinistriol yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd, rydw i’n falch o weld bod ein rhaglen prydau ysgol am ddim ni wedi gwneud cymaint o wahaniaeth cadarnhaol i gynifer o bobl.
 
“Mae gweld gwirfoddolwyr o bob rhan o’r cyngor a’n hasiantaethau partner ni yn gweithio gyda’i gilydd i roi cymorth i’n trigolion ni, yn yr hyn sydd wedi bod yn dasg logistaidd enfawr, yn wirioneddol ymgorffori ethos Tîm Caerffili a hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd am eu hymdrechion,” ychwanegodd.
 
Cafodd y prydau olaf cyn gwyliau’r haf eu dosbarthu gan dimau’r wythnos hon.
 
Am ragor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim, ffoniwch 01443 864055 neu fynd i https://www.caerphilly.gov.uk/freeschoolmeals?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau