News Centre

Arweinydd yn galw am weithredu cyflym i wrthdroi toriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Postiwyd ar : 22 Gor 2022

Arweinydd yn galw am weithredu cyflym i wrthdroi toriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno’n unfrydol i sefyll ochr yn ochr ag Undebau Llafur i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gynnydd mewn cyllid i awdurdodau lleol.
 
Cyflwynodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, Hysbysiad o Gynnig yng nghyfarfod llawn y Cyngor yr wythnos hon, yn annog pob aelod etholedig i gefnogi galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cynnydd llawn yn y cymorth ariannol i awdurdodau lleol.
 
Mae data gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL) wedi nodi gostyngiad o bron i 60% yn y cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig rhwng 2010 a 2020. Mae’r Cynghorydd Morgan wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i helpu’r gymuned drwy gydol yr argyfwng costau byw ac, yn ystod y cyfarfod, anogodd gynghorwyr o bob ochr y siambr i ddangos eu cefnogaeth.
 
Yn ystod y cyfarfod, pleidleisiodd aelodau’n unfrydol o blaid cefnogi’r Hysbysiad o Gynnig a bydd y Cyngor nawr yn gweithio gyda GMB, Unsain ac Unite i roi pwysau ar y Llywodraeth i weithredu ar unwaith.
 
Dywedodd y Cynghorydd Morgan, “Mae’r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau aruthrol ar y gymuned ac, fel aelodau etholedig, mae gennym ni rwymedigaeth i wneud popeth o fewn ein gallu i wella bywydau ein trigolion. Mae llawer o bobl eisoes yn wynebu penderfyniadau amhosibl, megis dewis rhwng prynu bwyd neu dalu biliau sy’n cynyddu mewn maint – mae’n glir nad ydyn ni’n gallu cynnal y sefyllfa hon yn llawer hirach.
 
“Mae cynghorau’n darparu cymaint o wasanaethau allweddol, gan roi cymorth allweddol i drigolion, ac roedd hyn yn glir, yn enwedig drwy gydol y pandemig. Roedd staff y Cyngor yn arwain y ffordd drwy weithio gydag ein cymunedau ni i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed a hefyd i sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn parhau i gael eu darparu.
 
“Mae effeithiau niweidiol y pandemig nawr yn glir i’w gweld gyda’r cynnydd mewn gwariant a cholled sylweddol mewn incwm. Mae cyflogau’r sector cyhoeddus wedi disgyn y tu ôl i gyflogau’r sector preifat ac mae staff y Cyngor nawr yn wynebu pwysau sylweddol hefyd.
 
“Rydw i eisiau sicrhau pawb ein bod ni’n cymryd camau gweithredu cyflym a chadarnhaol i gyflawni newid ac rydw i am barhau i gynrychioli buddiannau pennaf y gymuned ac ein gwasanaethau cyhoeddus ni.”


Ymholiadau'r Cyfryngau