News Centre

Rhoi’r golau glas i gêm fwrdd y Cyngor

Postiwyd ar : 29 Gor 2022

Rhoi’r golau glas i gêm fwrdd y Cyngor
Mae pobl ifanc sy’n rhan o Grŵp Prosiect Fforwm Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio gêm fwrdd i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau brys.
 
Gan weithio gyda chynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys, mae’r Prosiect Fforwm Ieuenctid wedi creu gêm fwrdd, Seiren, sydd â’r nod o addysgu pobl ifanc am y pethau i’w gwneud mewn argyfwng a chodi ymwybyddiaeth o rifau ffôn y gwasanaethau brys, megis 101 a’r gwasanaeth neges destun 999, mewn ffordd hwyliog ac addysgiadol.
 
Bydd y gêm yn cael ei rhannu ag ysgolion cynradd, ysgolion cyfun, a chlybiau, prosiectau a grwpiau ieuenctid ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Mae gwasanaethau brys gan gynnwys y GIG, Gwasanaeth Tân, Heddlu Gwent a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub i gyd yn cael eu cynrychioli yn y gêm fwrdd.
 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan: “Rydyn ni wrth ein boddau yn cyhoeddi lansiad ein gêm fwrdd newydd, Seiren. Rydyn ni’n credu bydd y gêm yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r holl waith aruthrol y mae ein gwasanaethau brys yn ei wneud, tra hefyd yn hysbysu pobl ifanc o’r hyn i’w wneud mewn argyfwng, a allai fod yn amhrisiadwy rhyw ddiwrnod.
 
“Hoffwn i ddiolch i’n Grŵp Prosiect Fforwm Ieuenctid am yr holl waith y maen nhw wedi’i wneud i greu Seiren, a’r holl wasanaethau brys sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor.”
 
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Roeddwn i’n hynod falch o fynychu lansiad y gêm. Mae’r gêm yn offeryn clyfar iawn a fydd yn cael ei defnyddio i addysgu plant a phobl ifanc am y gwahanol rolau y mae ein gwasanaethau brys yn eu chwarae.
 
“Roeddwn i’n falch o weld y bobl ifanc yn cymryd rhan yn y gêm, mae ganddo ystod eang o gwestiynau ynghylch ein gwasanaethau brys a fyddai’n gwneud i rai oedolion bwyso a mesur.
 
“Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig iawn. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddod â’r gêm yn fyw.”
 
Os ydych chi rhwng 11 a 25 oed, yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac yn dymuno bod yn rhan o Fforwm Ieuenctid Caerffili, cysylltwch â Lee Kabza drwy kabzal@caerffili.gov.uk neu 07789 501142 am ragor o fanylion.


Ymholiadau'r Cyfryngau