News Centre

Datblygiad tai arloesol Caerffili yn cyrraedd y rhestr fer yn un o wobrau mawreddog y DU

Postiwyd ar : 28 Gor 2022

Datblygiad tai arloesol Caerffili yn cyrraedd y rhestr fer yn un o wobrau mawreddog y DU
Mae prosiect a gafodd ei ddatblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu 18 o fflatiau un ystafell wely newydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yn yr Inside Housing Development Awards mawreddog eleni.

Nod yr Inside Housing Development Awards yw dathlu’r gorau o ddatblygiadau tai ledled y DU. Mae’r gwobrau hefyd yn cydnabod y timau, y cynlluniau a’r datrysiadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar gymunedau.
Mae Cyngor Caerffili wedi gweithio mewn partneriaeth â’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon, y gwneuthurwr Caledan o Ystrad Mynach, a’r penseiri Holder Mathias i ddatblygu cartrefi newydd arloesol ar safleoedd yn Nhrecenydd a Thretomos.

Y cartrefi sydd ar y datblygiadau hyn yw’r cyntaf yng Nghymru i gael eu datblygu i safonau Passivhaus gan ddefnyddio dyluniad ffrâm prima dur. Bydd y cartrefi nid yn unig yn helpu i leihau allyriadau carbon ond yn sicrhau bod costau tanwydd yn cael eu cadw i’r lleiafswm ar gyfer tenantiaid y dyfodol.

Mae Cynllun Peilot Tai Arloesol Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau ‘Datblygiad Gorau’ a ‘Phartneriaeth Orau’. Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu cyhoeddi mewn dathliad yn Llundain ar 30 Medi.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai “Gyda dros 250 o geisiadau wedi eu cyflwyno i’r gwobrau hyn gan ddatblygwyr tai a darparwyr o bob rhan o’r DU, mae cyrraedd dwy restr fer yn anrhydedd anhygoel.

Mae Cynllun Peilot Tai Arloesol Caerffili wedi ein gweld yn mynd ar daith gyffrous i adeiladu tai cyngor newydd yn y Fwrdeistref Sirol am y tro cyntaf ers bron i 20 mlynedd. Rydyn ni’n gobeithio defnyddio’r cynllun peilot hwn a’r bartneriaeth rydyn ni wedi ei datblygu fel glasbrint ar gyfer ein cynlluniau adeiladu tai yn y dyfodol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau